Mae Siôn Jobbins, sydd wedi’i ailethol yn gadeirydd Yes Cymru yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol heddiw (dydd Sadwrn, Mai 22), yn dweud bod pwyllgor canolog newydd y mudiad “yn fwy cynrychioladol o Gymru nag o’r blaen”.

Mae Nikita Jones, sy’n byw ym Mhenrhyndeudraeth ac yn hanu o India, wedi’i hethol i’r pwyllgor ac ymhlith y newidiadau mwyaf mae’r ffaith fod hanner y pwyllgor bellach yn fenywod ac mae is-bwyllgor amrywiaeth wedi’i sefydlu ar ôl i ddau gynnig gwahanol gael eu pasio.

“Y newyddion mawr yw fod hanner y pwyllgor gwaith nawr yn fenywod, so hwnna oedd y newid mawr yn y Cyfansoddiad,” meddai Siôn Jobbins wrth golwg360.

“Cafodd y cynnig ei dderbyn, ac mae gyda ni Niki Jones o Benrhyndeudraeth, sy’n dod o India, ar y pwyllgor ac ry’n ni’n falch iawn o weld ein bod ni’n dangos amrywiaeth pobol Cymru yng nghyfansoddiad y pwyllgor gwaith.

“Mae gyda ni amrywiaeth dda o bobol, yn fwy cynrychioladol o Gymru nag o’r blaen.

“Ry’n ni wedi creu is-bwyllgor amrywiaeth hefyd, ac mae hwnna wedi’i gynnwys er mwyn sicrhau bod fforwm cyfansoddiadol i glywed lleisiau amrywiaeth eang iawn o bobol, ac mae hwnna nawr yn rhan o wneuthuriad y mudiad.”

‘Tipyn o her’

Yn ôl Siôn Jobbins, roedd hi’n “dipyn o her” trefnu’r cyfarfod ar-lein ond fe roddodd y cyfle i fwy o bobol fynd i’r cyfarfod na phe bai wedi bod wyneb yn wyneb.

“Dwi’n hapus iawn bo ni wedi gallu trefnu’r Cyfarfod Cyffredinol i gyd ar-lein, oedd yn dipyn o her,” meddai.

“Er, mewn ffordd, roedd hi’n golygu bod pobol fyddai ddim wedi gallu teithio i leoliad daearyddol wedi gallu bod yn rhan o’r digwyddiad.

“Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i’r criw sydd wedi gwneud i hynny ddigwydd.”

Ymhlith y rhai sy’n gadael y pwyllgor mae tri o’r aelodau sydd wedi bod yno ers y dechrau, sef Hedd Gwynfor, Iestyn ap Rhobert a Dilys Davies, ac mae Cian Ciarán hefyd yn gadael.

“Dw i’n hyderus y byddwn ni’n clywed mwy gan Cian a Iestyn yn y dyfodol,” meddai Siôn Jobbins wedyn.

Y pwyllgor:

Siôn Jobbins (Cadeirydd), Sarah Rees (Is-gadeirydd), Shane Brennan (Ysgrifennydd), Gwyn Llewelyn (Trysorydd), Andrew O’Brien, Ben Gwalchmai, Carys Eleri, Elin Hywel, Llywelyn ap Gwilym, Nikita Jones, Rachel Cooze, Tori West.