Mae pedwar o ddynion wedi cael eu harestio mewn perthynas ag anhrefn treisgar yn Abertawe nos Iau (Mai 20).

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a ffenestri tai eu torri yn dilyn y digwyddiad torfol yn ardal Mayhill.

Yn ôl yr heddlu, mae’r rhai sydd wedi’u harestio – sydd yn 36, 20, 18 ac 16 oed – yn dal yn y ddalfa ac mae’r heddlu’n cynnal mwy o batrolau nag arfer yn yr ardal.

Mae’r heddlu wedi diolch i bobol leol am wybodaeth, deunydd fideo a datganiadau tystion ond maen nhw’n parhau i apelio am ragor o wybodaeth.

Mwy o heddlu nag arfer i batrolio strydoedd gwyllt Abertawe

“Lefel y trais tuag at y gwasanaethau brys a’r difrod i adeiladau a cherbydau yn gwbl annerbyniol”