Mae tîm pêl-droed Abertawe wedi cyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, ar ôl curo Barnsley o 2-1 dros ddau gymal y gêm gyn-derfynol.

1-1 oedd hi yn Stadiwm Liberty heno (nos Sadwrn, Mai 22).

Daeth gôl yr Elyrch o droed y capten Matt Grimes o ymyl y cwrt cosbi ar ôl 38 munud, a hynny ar ôl i golwr Barnsley, Brad Collins fethu â chlirio’r bêl oddi ar groesiad Conor Hourihane o gic rydd ar yr asgell chwith.

Aeth y bêl oddi ar ben Jay Fulton i Grimes, a hwnnw’n dawnsio heibio’r amddiffyn i rwydo.

Fe wnaeth Barnsley unioni’r sgôr ar ôl 70 munud wrth iddyn nhw wrthymosod, gyda’r cefnwr de Jordan Williams yn rhedeg o’i hanner ei hun yr holl ffordd i’r cwrt cosbi.

O’r fan honno, croesodd e’r bêl i lwybr Cauley Woodrow, a hwnnw’n daro ergyd ar ei gyffyrddiad cyntaf.

Roedd y diweddglo’n un nerfus i’r Elyrch wrth iddyn nhw geisio dal eu gafael ar eu mantais, ond roedd y dasg o chwilio am ail gôl yn ormod i Barnsley yn y pen draw.