Dim ond 6.2 o belawdau gafodd eu bowlio ar drydydd diwrnod gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Caint yng Nghaergaint.

Ar ôl dechrau ar 55 am ddwy, mae Morgannwg bellach yn 64 am dair, 243 o rediadau ar ei hôl hi.

Dim ond un wiced gollodd Morgannwg, wrth i Matt Quinn fowlio Joe Cooke am ddeg, a hynny ar ôl i’r chwaraewyr orfod aros tan toc cyn 5.20 i gael chwarae.

Roedd y cae yn rhy wlyb i ddechrau’r chwarae ar y trydydd bore, ac fe ddaeth y golau gwael i ddod â’r chwarae i ben am y dydd.

Mae Billy Root (26) wrth y llain, ynghyd â Kiran Carlson sydd heb sgorio eto.

Does fawr o obaith o chwarae ar y diwrnod olaf yfory (dydd Sul, Mai 23) chwaith, sy’n golygu bod Morgannwg yn debygol o ddychwelyd i Gymru â phwyntiau gêm gyfartal.

Batiwr 45 oed yn achub Caint ac yn chwalu Morgannwg

Darren Stevens wedi sgorio 190 wrth i sawl record gael eu torri ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yng Nghaergaint

Dechrau da i Forgannwg gyda’r bêl ar ddiwrnod byr yng Nghaergaint

Caint yn 70 am ddwy ar ôl dim ond 22 o belawdau yn dilyn oedi oherwydd cae gwlyb a gafodd ei achosi gan law trwm dros nos

Torf o bobol yn cael gwylio Morgannwg yng Nghaint

Caint yw’r unig dîm maen nhw wedi’u curo y tymor hwn