Fe wnaeth Darren Stevens, chwaraewr amryddawn 45 oed, achub Caint ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yng Nghaergaint.
Tarodd e 190 oddi ar 149 o belenni yn ystod batiad oedd wedi para tair awr a saith munud, wrth iddo fe daro 15 pedwar a 15 chwech.
Roedd ei dîm i gyd allan am 307 yn y pen draw, a hynny ar ôl bod yn 128 am wyth ar un adeg yn ystod y batiad.
Mae stori Stevens yn fwy rhyfeddol o ystyried y bu bron i Gaint ei ryddhau o’i gytundeb yn 2019 cyn iddo fe sgorio 237, ei sgôr gorau erioed – ond mae e’n dal i serennu ddwy flynedd ar ôl torri record am y chwaraewr dosbarth cyntaf hynaf yn y gêm sirol ers Eddie Hemmings, 46, i Sussex yn 1995.
Bore’r bowlwyr
Dechreuodd Caint yr ail ddiwrnod ar 70 am ddwy ond roedden nhw mewn trafferth yn gynnar yn y dydd, wrth golli un batiwr ar ôl y llall.
Tarodd Michael Neser goes Jack Leaning o flaen y wiced am ddwy i’w gadael nhw’n 73 am dair cyn i’r bowliwr fowlio Jordan Cox yn fuan wedyn am 27, a’r sgôr yn 78 am bedair.
Roedden nhw’n 80 am bump pan darodd Neser goes Daniel Bell-Drummond o flaen y wiced heb sgorio, ac yn 84 am chwech wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten daro coes Sam Billings o flaen y wiced am 11.
Aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i van der Gugten daro coes Marcus O’Riordan o flaen y wiced heb sgorio, a’i dîm yn 92 am saith.
Roedd ychydig o adferiad i ddod cyn i Neser daro coes Nathan Gilchrist o flaen y wiced am 12, a’r sgôr erbyn hynny’n 128 am wyth.
Cyrhaeddodd Darren Stevens ei hanner canred oddi ar 61 o belenni wrth i’r Saeson gyrraedd 150 am wyth erbyn amser cinio.
Taro’n ôl ar ôl cinio
Adeiladodd Stevens a Miguel Cummins bartneriaeth o 100 am y nawfed wiced ar ôl yr egwyl, er mai un rhediad yn unig roedd Cummins wedi’i sgorio erbyn hynny.
Aeth Stevens yn ei flaen i gyrraedd ei ganred oddi ar 93 o belenni ond roedd e’n ffodus ar ôl cael ei ollwng ar 67 gan y gogleddwr David Lloyd.
Roedd e’n ffodus unwaith eto ar 136 pan ddaeth cyfle arall i’w ddal, ond methodd Marnus Labuschagne â dal ei afael ar y bêl.
Aeth y batiwr yn ei flaen i gyrraedd carreg filltir arall, 150 oddi ar 117 o belenni gyda’r bartneriaeth bellach yn werth 150, a Cummins yn dal yno heb fod allan ar un.
Wrth i’r bartneriaeth gyrraedd 162, roedd honno’n record am y nawfed wiced i Gaint yn erbyn Morgannwg ond fe ddaeth batiad Stevens i ben o’r diwedd pan aeth y bêl yn ddiogel i ddwylo Kiran Carlson oddi ar fowlio’r troellwr coes achlysurol Labuschagne.
Erbyn i’r batiad ddod i ben, roedd Stevens wedi sgorio 96% o holl rediadau’r bartneriaeth, sy’n record am y gyfradd fwyaf o rediadau mewn unrhyw bartneriaeth dosbarth cyntaf dros 100 i unrhyw dîm.
Tarodd Matt Quinn chwech oddi ar ei belen gyntaf ar ôl dod i’r llain â’r sgôr yn 294 am naw, ond daeth y batiad i ben pan gafodd Cummins ei fowlio am saith, a’i dîm i gyd allan am 307.
Roedd 110 munud Cummins heb sgorio’r un rhediad hefyd yn record mewn criced sirol.
Dechrau gwael i fatwyr Morgannwg
Dechreuodd batiad Morgannwg yn wael yn oerfel Caergaint, wrth i Quinn daro coes Lloyd o flaen y wiced am bedwar, a’r Cymry’n bump am un.
Am yr ail waith eleni, tarodd Stevens goes Labuschagne o flaen y wiced, gyda’r Awstraliad allan am 11 i adael Morgannwg yn 16 am ddwy.
Roedden nhw’n 48 am ddwy wrth adael y cae am y tro cyntaf yn sgil y glaw, ac yn 55 am ddwy pan ddaeth y chwarae i ben am y dydd yn y tywyllwch.