Collodd y Cymro Cymraeg Brett Johns ei ornest Bellator gyntaf yn yr Unol Daleithiau neithiwr (nos Wener, Mai 21).

Roedd e’n ymladd yn erbyn Danny Sabatello, oedd hefyd yn ei ornest Bellator gyntaf, yn Uncasville yn nhalaith Connecticut.

Roedd penderfyniad y beirniaid yn unfrydol, wrth i Sabatello ennill ar bwyntiau, gyda phob un o’r beirniaid yn nodi sgôr o 30-27.

Daeth cadarnhad fis Hydref y llynedd fod Johns, sy’n hanu o Abertawe, wedi symud o’r UFC at Bellator.

Roedd disgwyl iddo fe ymladd yn erbyn Matheus Mattos ond fe fu’n rhaid i hwnnw dynnu’n ôl o’r ornest ar ôl profi’n bositif ar gyfer Covid-19.

Fe wnaeth Sabatello gamu i’r bwlch ar y funud olaf, gyda dim ond wythnos o rybudd.

Brett Johns

Brett Johns yn troi ei sylw at Bellator

Mae’r Cymro Cymraeg o Bontarddulais yn gadael yr UFC am resymau ariannol, yn ôl neges ar ei dudalen Instagram