Ar drothwy gornest fawr Abertawe gartref yn erbyn Barnsley yn ail gymal y gemau ail gyfle heddiw (dydd Sadwrn, Mai 22), mae Andre Ayew yn dweud y byddai ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr “ymhlith uchafbwyntiau” ei yrfa.
Mae’r ymosodwr wedi sgorio i Ghana yng Nghwpan y Byd yn ogystal ag yng Nghynghrair y Pencampwyr gydag Marseille.
Roedd Ayew yn rhan o dîm Abertawe ddisgynnodd o Uwch Gynghrair Lloegr yn 2018, a threuliodd flwyddyn ar fenthyg yn Nhwrci gyda Fenerbahce cyn dychwelyd i dde Cymru.
Mae wedi sgorio 17 o goliau’r tymor hwn wrth i’r clwb gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth am yr ail dymor yn olynol.
Mae tîm Steve Cooper ar y blaen o 1-0 yn erbyn Barnsley yn dilyn cymal cyntaf y rownd gyn-derfynol ar ôl i Ayew sgorio gôl fendigedig, wrth redeg tuag at ymyl y cwrt cosbi ac ergydio heibio’r golwr.
Bydd yr Elyrch yn croesawu Barnsley i Stadiwm Liberty ar gyfer yr ail gymal heno am 6.30yh.
Pan gafodd ei holi sut fyddai dyrchafiad yn cymharu â sgorio yng Nghwpan y Byd a Chynghrair y Pencampwyr, dywedodd Ayew y “byddai ymhlith yr uchafbwyntiau”.
“Rwy’ wedi dod i garu’r clwb a’r cefnogwyr, a byddai’n gamp enfawr oherwydd byddai’n profi fy mod i’n gallu llwyddo ar unrhyw lefel,” meddai.
“Dw i wedi dilyn lot o chwaraewyr sydd wedi chwarae ar lefel uchel iawn cyn dod i lawr i’r Bencampwriaeth, a heb lwyddo.
“O’m rhan i’n bersonol, byddai [dyrchafiad] yn enfawr.
“Dyna’r rheswm pam wnes i aros gyda’r tîm hwn.”
Abertawe yn ‘un o’r timau cryfaf yn y Bencampwriaeth’
Un dyn sy’n disgwyl gêm anodd ddydd Sadwrn ydi rheolwr Barnsley, Valerien Ismael.
Mae Abertawe wedi curo ei dîm bob tro maen nhw wedi chwarae’r tymor hwn.
“Maen nhw’n un o’r timau cryfaf yn y Bencampwriaeth, ond os ydyn ni’n sgorio rydyn ni’n gobeithio eu gwneud nhw’n nerfus, dyna ein bwriad,” meddai Ismael.
“Bydd gan Abertawe eu cefnogwyr gyda nhw y tro hwn, ond dyw e ddim bob amser yn fantais.
“Mae’n deimlad emosiynol.
“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y cynllun a cheisio sgorio cyn gynted â phosib ac yna, gadewch i ni weld.”