Mae tîm pêl-droed Abertawe 90 munud i ffwrdd o gêm fawr yn Wembley yr wythnos nesaf, wrth iddyn nhw groesawu Barnsley i Stadiwm Liberty heno (nos Sadwrn, Mai 22, 6.30yh) ar gyfer ail gymal y gêm ail gyfle gyn-derfynol.

Mae gan yr Elyrch fantais o 1-0 ar ôl y cymal cyntaf oddi cartref yn Oakwell, a byddan nhw’n gobeithio y gall y torf gyntaf yn Stadiwm Liberty ers dros flwyddyn roi hwb ychwanegol iddyn nhw wrth iddyn nhw geisio efelychu camp tîm Brendan Rodgers ddegawd yn ôl wrth i’r tîm hwnnw godi Abertawe i Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf erioed.

Bydd rhaid iddyn nhw ragori ar eu hail gymal y tymor diwethaf, pan wnaethon nhw fethu ag amddiffyn mantais o un gôl wrth golli’r ail gymal o 3-1 yn erbyn Brentford.

Does gan Steve Cooper a’i dîm ddim pryderon ynghylch anafiadau newydd, a’r unig ddau chwaraewr sydd allan yw Brandon Cooper a Tivonge Rushesha, dau sydd ar gyrion y garfan.

Y ffeithiau ac ystadegau pwysig

Y tro diwethaf i Abertawe herio Barnsley yng Nghymru fis Rhagfyr y llynedd, sgoriodd Jamal Lowe wrth i’r Elyrch ymestyn eu rhediad di-guro yn Stadiwm Liberty i saith gêm – ac fe godon nhw i’r trydydd safle yn y tabl.

Hon oedd pumed gôl Lowe yn ystod y tymor, ac fe ddaeth yn erbyn tîm Barnsley oedd wedi ennill eu tair gêm flaenorol.

Daeth yr ail gôl pan beniodd Victor Adeboyejo y bêl i’w rwyd ei hun wedi’r egwyl, ac fe gadwodd yr Elyrch unfed llechen lân ar ddeg y tymor – gyda’r golwr Freddie Woodman bellach wedi ennill y Faneg Aur am y nifer fwyaf o lechi lân yn ystod y tymor (20).

Dydy Barnsley ddim wedi curo Abertawe dros gyfnod o 90 munud ers 38 o flynyddoedd, a daeth eu hunig fuddugoliaeth mewn 17 o gemau rhwng y timau ers hynny wrth iddyn nhw herio’i gilydd yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Adran Gyntaf (League One).

2-2 oedd y sgôr ar ôl 90 munud ac amser ychwanegol, a bu’n rhaid i Barnsley ddibynnu ar giciau o’r smotyn i ennill dyrchafiad.