Brentford fydd gwrthwynebwyr Abertawe yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth pe bai’r Elyrch yn curo Barnsley yn Stadiwm Liberty heno (nos Sadwrn, Mai 22).

Fe wnaeth Brentford guro Bournemouth ar ôl bod ar ei hôl hi o 1-0 ar ôl y cymal cyntaf.

Ond Brentford oedd y tîm cryfaf o lawer yn yr ail gymal, wrth i Ivan Toney, Vitaly Janelt a Marcus Forss sgorio ar ôl i Bournemouth fynd ar y blaen yn gynnar drwy Arnaut Danjuma.

Collodd Bournemouth Chris Mepham, amddiffynnwr canol Cymru, yn yr hanner cyntaf wrth iddo dynnu gwrthwynebydd i lawr yn y cwrt cosbi, a daeth Brentford yn gyfartal o’r smotyn drwy Toney cyn mynd yn eu blaenau i ennill o 3-2 dros y ddau gymal.

Dydy Brentford ddim wedi chwarae yn yr adran uchaf ers 1947, ac fe fyddan nhw’n dychwelyd i Wembley flwyddyn ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn Fulham ar ôl trechu Abertawe yn y rownd gyn-derfynol.