Mae cefnogwyr wedi bod yn lleisio barn am un o ganlyniadau rhyfedd cyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar gêm bêl-droed ail gyfle Y Barri yn erbyn Caernarfon heno (nos Sadwrn, Mai 22, 5.30yp).

Yn sgil y cyfyngiadau, fydd dim modd i gefnogwyr fod allan yn yr awyr agored yn stadiwm Parc Jenner, sy’n dal 2,500 o bobol, ar gyfer gêm gyn-derfynol Cymru Premier.

Ond mae’r cyfyngiadau’n caniatáu i hyd at 130 o bobol fod yn y clwb a gwylio’r gêm o’r fan honno.

Bydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar Sgorio ar S4C.

Ymateb

Mae’r sefyllfa wedi ennyn tipyn o ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl Nicholas Grant, un o gefnogwyr Y Barri, roedd e’n bwriadu teithio o Ferthyr i’r Barri ond mae’n dweud nad yw e eisiau wynebu’r “risg o beidio â chael i mewn i’r clwb” ac felly, fe fydd e’n gwylio ar y teledu “ag ambell gwrw”.

Mae Richard Taylor o Lido Afan yn feirniadol o Lywodraeth Cymru, gan ddweud ei fod yn “destun penbleth” nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r sefyllfa.

Mae eraill yn disgrifio “gwallgofrwydd” y sefylla, tra bod eraill yn dweud ei bod yn “boncyrs”.

Ffafrio timau Cymru yng nghynghreiriau Lloegr?

Wrth siarad â BBC Cymru neithiwr (nos Wener, Mai 21), fe wnaeth Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Cymru Premier, gyhuddo Llywodraeth Cymru o ffafrio timau Cymru sy’n chwarae yng ngynghreiriau Lloegr.

Yn wahanol i haen ucha’r gêm yng Nghymru, mae Abertawe a Chasnewydd wedi cael croesawu cyfran o gefnogwyr ar gyfer cymal cartref eu gemau ail gyfle nhw.

Ond does gan y Cymru Premier mo’r statws angenrheidiol i groesawu cefnogwyr i gemau ar hyn o bryd.

“Ar Fai 11 pan gafodd naw o ddigwyddiadau prawf eu cyhoeddi… cawson ni wybod nad oedden ni’n mynd i fod yn un ohonyn nhw,” meddai Gwyn Derfel.

“Tynnodd un o’r digwyddiadau prawf yn ôl ac unwaith eto, fe wnaethon ni gynnig ein gwasanaeth a dywedwyd wrthym ‘Na, rydyn ni’n cadw at wyth digwyddiad prawf’.

“Mae hi’n ymddangos yn eithaf clir i ni fod y Llywodraeth ddatganoledig sydd wedi’i lleoli yng Nghymru’n ffafrio’r timau Cymreig sy’n chwarae yn y system byramid yn Lloegr dros y timau sy’n chwarae yn system byramid Cymru.

“Mae hynny’n beth anodd iawn i’w stumogi, yn enwedig ar ôl i ni gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru dros y 14 i 15 mis diwethaf.

“Rydyn ni jyst yn teimlo ei fod yn gyfle wedi’i golli gan yr awdurdodau hefyd.”

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi’r camau nesaf o ran cyfyngiadau Covid-19 ar Fehefin 4, ac mae’n debygol y bydd unrhyw gamau i lacio’r cyfyngiadau yn seiliedig ar ddigwyddiadau prawf.