Mae gobeithion tîm pêl-droed Wrecsam o gyrraedd gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol yn dal yn fyw yn dilyn buddugoliaeth swmpus o 5-3 dros Kings Lynn.

Hon oedd gêm gartref ola’r gynghrair, wrth iddyn nhw deithio i Dagenham & Redbridge ddydd Sadwrn nesaf (Mai 29).

Aethon nhw ar y blaen drwy Luke Young o’r smotyn cyn i Sonny Carey unioni’r sgôr â chic rydd.

Sgorion nhw ddwywaith yn rhagor cyn yr egwyl, wrth i Jordan Davies lwyddo â chic rydd, gyda Gold Omotayo yn ymestyn eu mantais i 3-1 erbyn hanner amser.

Rhwydodd Simeon Jackson ddwywaith i’r ymwelwyr cyn i Jordan Ponticelli rwydo â’i ben i’w gwneud hi’n 4-3, a daeth y gôl olaf gan Gold Omotayo ar ôl 81 munud.

Mae’n dal yn dynn yn y tabl, ac mae Eastleigh wedi chwarae un gêm yn llai na’r gweddill:

6. Wrecsam 67

7. Chesterfield 66

8. Bromley 66

9. Eastleigh 65

10. Halifax 65