Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e’n mwynhau taith “unigryw” ei dîm, ac yn edrych ymlaen at “bennod arall” yn eu hanes.
Bydd yr Elyrch yn teithio i Wembley ddydd Sadwrn nesaf (Mai 29) i herio Brentford yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, a’r wobr fawr i’r enillydd fydd lle yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe wnaeth yr Elyrch a Barnsley orffen yn gyfartal 1-1 yn yr ail gymal yn Stadiwm Liberty neithiwr (nos Sadwrn, Mai 22) ac roedd hynny’n ddigon iddyn nhw ar ôl ennill y cymal cyntaf yn Oakwell o 1-0.
“Wrth gwrs fy mod i’n falch,” meddai Steve Cooper ar ôl i’w dîm chwarae gerbron torf (o 3,000 o bobol) am y tro cyntaf ers 14 mis.
“Rydych chi wedi gweld taith y clwb pêl-droed hwn, nid dim ond yn y ddwy flynedd dw i wedi bod yma.
“Mae’n un unigryw ac mae hon yn bennod arall. Ond dydy hi ddim ar ben, mae gyda ni un arall yr wythnos nesaf.
“Roedd hi’n fraint cael bod yn y stadiwm gyda’r cefnogwyr wedi bod i ffwrdd, a chael cyrraedd Wembley.
“Bydd hi’n noson i’w chofio ond dw i hefyd yn gwybod mai fy emosiwn mwyaf yw paratoi at ddydd Sadwrn nesaf.
“Unwaith fydda i’n mynd adref, bydd y gliniadur ymlaen a bydda i’n edrych ar y gwrthwynebwyr.”
Talu teyrnged i Wayne Routledge
Er gwaetha’r dathliadau, roedd hi’n noson siomedig i Wayne Routledge, un o hoelion wyth yr Elyrch, wrth iddo orfod gadael y cae ar wastad ei gefn oherwydd anaf i’w benglin.
Mae’r blaenwr ac asgellwr 36 oed wedi chwarae dros 300 o weithiau i’r Elyrch dros y degawd diwethaf, ond mae’n bosib ei fod e wedi chwarae ei gêm olaf i’r clwb.
Dydy hi ddim yn glir a fydd e’n holliach ar gyfer y daith i Wembley, ac mae ei gytundeb yn dirwyn i ben yn fuan.
Talodd Steve Cooper deyrnged emosiynol iddo fe ar ôl y gêm.
“Mae gyda fi barch mawr at y boi,” meddai.
“Fe oedd y testun trafod mwya’ yn yr ystafell newid pan siaradais i â’r chwaraewyr ar ôl y gêm.
“Mae hi’n edrych yn debygol y bydd e wedi anafu o hyd yr wythnos nesaf ond dw i wedi bod yn lwcus o’i gael e.
“Dw i newydd ddweud o flaen y criw y bydda i bob amser yn ddyledus iddo fe oherwydd mae’r gefnogaeth mae e wedi’i rhoi i fi dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anhygoel.”