Mae’r Cymro Cymraeg o Ddolgellau, Elfyn Evans mewn sefyllfa gref ar ddiwrnod olaf Rali Portiwgal.
Mae e wedi dyblu ei fantais ar ôl cymal cynta’r diwrnod olaf, gan orffen y cymal hwnnw mewn chwe munud, 5.1 eiliad – 9.6 eiliad yn gynt na Dani Sordo sydd yn yr ail safle.
Roedd e’n ail ar ddechrau’r dydd ddoe (dydd Sadwrn, Mai 22) ond mae ei berfformiad diweddaraf wedi ei roi e mewn sefyllfa arbennig o dda i ennill y rali.
Mae ganddo fe fantais o 20.3 eiliad dros Sordo bellach, gyda phedwar cymal yn weddill.
Ym Montim mae’r cymal nesaf.