Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn dweud na fyddan nhw’n “parcio’r bws” yn ail gymal eu gêm ail gyfle gyn-derfynol yn erbyn Forest Green heno (nos Sul, Mai 23, 6.30yh).

Mae ganddyn nhw fantais o ddwy gôl dros y tîm o Swydd Gaerloyw, yn dilyn goliau Matty Dolan a Lewis Collins yn Rodney Parade.

Mae hynny’n golygu y byddai gêm gyfartal neu golled o ddim mwy nag un gôl yn ddigon iddyn nhw deithio i Wembley am yr ail waith mewn tri thymor.

Ond ymosod fydd eu nod serch hynny.

“Mae hi’n gêm enfawr oherwydd rydyn ni eisiau mynd i Wembley a chael dyrchafiad, gobeithio,” meddai Flynn.

“Mae’n achlysur enfawr ac rydyn ni’n chwarae yn erbyn tîm Forest Green da iawn sy’n beryglus ac sy’n gallu curo unrhyw un ar ddiwrnod da – dw i ddim yn twyllo fy hun ynghylch hynny.

“Ond yr un peth fyddwn ni ddim yn ei wneud yw parcio’r bws.”

Y timau

Mae Casnewydd wedi cael hwb gyda’r newyddion fod eu capten Joss Labadie yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i’w benglin.

Doedd e ddim ar gael ar gyfer y cymal cyntaf yng Nghasnewydd, gyda Matty Dolan yn cymryd ei le ac mae perfformiad hwnnw’n golygu bod gan y rheolwr dipyn o ben tost.

“Roedd e’n ffit ond fe wnes i roi ei les yn gyntaf oherwydd roedd perygl y gallai dorri i lawr eto,” meddai.

Mae disgwyl i Jamille Matt ddechrau i Forest Green yn erbyn ei hen glwb, a hynny er gwaetha’r pryderon na fyddai ar gael am weddill y tymor o ganlyniad i anaf i’w law ddeufis yn ôl.

Serch hynny, fe ddaeth e oddi ar y fainc yn y cymal cyntaf, ac fe allai hynny fod yn ddigon i sicrhau ei le ar y cae ar ddechrau’r ail gymal.

Gallai Nicky Cadden ddechrau hefyd ar ôl bod ar y fainc yn y cymal cyntaf wrth wella o anaf i linyn y gâr.