Mae gêm Bencampwriaeth Morgannwg yng Nghaint wedi dod i ben yn gyfartal, er i’r ddau dîm geisio buddugoliaeth ar ddiwrnod olaf gwlyb yng Nghaergaint.

Roedd Morgannwg yn 64 am dair yn eu batiad cyntaf ar ddechrau’r diwrnod – 243 o rediadau ar ei hôl hi – ac fe wnaethon nhw gau eu batiad er mwyn i Gaint gael eu hail fatiad.

Fe wnaeth Caint gau eu hail fatiad ar 60 am un, gydag Ollie Robinson wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Neser am 14. Roedd Jordan Cox yn ddi-guro ar 27 a Zak Crawley hefyd wrth y llain ar 18 pan ddaeth y batiad i ben.

Roedd hynny’n golygu bod gan Forgannwg nod o 304 oddi ar o leiaf 84 o belawdau i ennill.

Roedden nhw’n 22 heb golli wiced pan ddaeth y glaw gyntaf, cyn i David Lloyd gael ei fowlio gan Matt Quinn am 17 wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r cae.

Ond daeth rhagor o law â chinio cynnar ac fe ddaeth yr ornest i ben pan ddaeth y glaw trwm, gyda Joe Cooke heb fod allan ar chwech a Marnus Labuschagne heb sgorio.

Mae Morgannwg wedi ennill 11 o bwyntiau, a Chaint 12.

Eisiau cyffroi’r dorf

Yn ôl Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg, roedd y ddau dîm eisiau cyffroi’r dorf, oedd wedi cael dychwelyd am gêm am y tro cyntaf ers dros flwyddyn.

“Roedd cau’r batiadau jyst er mwyn cael gêm i mewn,” meddai.

“Mae’r ddau dîm wedi wynebu rhwystredigaeth efo’r tywydd dros y tair wythnos dwytha’ ac roedd torfeydd i mewn, felly roeddan ni jyst eisiau rhoi gêm i’r cyhoedd gael ei dilyn yn hytrach na jyst chwarae am bwyntiau bonws ar y diwrnod olaf.

“Ond yn anffodus, ddaru’r tywydd chwalu hynny.”

Serch hynny, fe wnaeth perfformiad Morgannwg â’r bêl ei blesio.

“Ddaru ni fowlio’n arbennig o dda yn y batiad cynta’ i gael y safle gawson nhw [roedd Caint yn 128 am wyth] ond ddaru Darren Stevens wneud be’ fedrith Darren Stevens ei wneud.

“Ro’n i’n meddwl fod o’n fatiad mentrus dros ben, er i ni roi sawl cyfle iddo fo ac am wn i, ddaru ni ddim rhoi digon o bwysau ar [Miguel] Cummins.

“Dw i wrth fy modd efo’r ffordd mae’r hogiau wedi bod yn y saith gêm gynta’.

“Mae angen mwy o bartneriaethau arnon ni efo’r bat ac ambell ganred mawr ond dw i wrth fy modd efo’r bêl.

“Rydan ni wedi bowlio’n fwy syth na’r blynyddoedd cynt ac mae o wedi talu ar ei ganfed, ac rydan ni wedi dal yn dda.

“Mae Marnus [Labuschagne] yn chwaraewr gwydn dros ben, dydach chi ddim yn cyrraedd rhif tri yn y byd yn hawdd.

“Mae o wedi cael ambell belen dda a phenderfyniad amheus am goes o flaen y wiced yn y gêm, mae’r pethau hynny’n digwydd.

“Ond dw i’n sicr y bydd Marnus yn sgorio digon o rediadau i ni, nid dim ond y tymor hwn ond mewn tymhorau i ddod hefyd.”

 

Batiwr 45 oed yn achub Caint ac yn chwalu Morgannwg

Darren Stevens wedi sgorio 190 wrth i sawl record gael eu torri ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yng Nghaergaint

Dechrau da i Forgannwg gyda’r bêl ar ddiwrnod byr yng Nghaergaint

Caint yn 70 am ddwy ar ôl dim ond 22 o belawdau yn dilyn oedi oherwydd cae gwlyb a gafodd ei achosi gan law trwm dros nos

Torf o bobol yn cael gwylio Morgannwg yng Nghaint

Caint yw’r unig dîm maen nhw wedi’u curo y tymor hwn