Mae’r Cymro Cymraeg o Ddolgellau, Elfyn Evans wedi ennill Rali Portiwgal gyda mantais o 28.30 eiliad dros Dani Sordo.
Roedd y pencampwr blaenorol Sebastien Ogier yn drydydd.
Collodd Evans ryw draean o’i flaenoriaeth i Sordo neithiwr (nos Sadwrn, Mai 22), ac roedd e dan bwysau ar y diwrnod olaf.
Serch hynny, dechreuodd Evans yn gryf gan ddyblu ei fantais o 10.70 eiliad i 20.30 gan gipio cymal am y trydydd tro yn y rali.
Aeth yn ei flaen i ennill dau gymal arall, ond fe wnaeth e orffen y cymal enwog yn Fafe yn y trydydd safle y tu ôl i Thierry Neuville ac Ott Tanak, dau yrrwr oedd wedi rhoi’r gorau i’r rali gyfan ond oedd wedi penderfynu cystadlu am bwyntiau yn y cymal yn erbyn y cloc mewn ymgais i frwydro am bencampwriaeth y gyrwyr.
Mae Evans ddau bwynt y tu ôl i Ogier ym mhencampwriaeth y gyrwyr, ond mae bwlch o 20 pwynt wedyn gyda Neuville, a Tanak 12 pwynt arall y tu ôl i hwnnw.
Ond ar ôl cipio buddugoliaeth gynta’r tymor, gall y Cymro edrych ymlaen at Rali’r Eidal ymhen deng niwrnod.