Y Barri 1-3 Caernarfon

Mae Caernarfon un cam i ffwrdd o bêl droed Ewropeaidd ar ôl trechu’r Barri yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ar Barc Jenner ddydd Sadwrn.

Roedd y Cofis yn enillwyr cwbl haeddiannol o dair gôl i un wrth i’r frwydr am safle olaf Cymru yn y Cynghrair Ewropa barhau.

Hayes yn teithio i Ewrop?

Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen bum munud cyn yr egwyl pan rwydodd Mike Hayes wedi i ergyd wreiddiol Darren Thomas gael ei harbed gan Mike Lewis.

Cyfartal a oedd hi wrth droi serch hynny diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Gareth Edwards, yr amddiffynnwr profiadol yn gwyro peniad Evan Press heibio i Tyler French yn y gôl.

Ni wnaeth ildio ar ddiwedd yr hanner cyntaf effeithio llawer ar Gaernarfon ac roeddynt yn ôl ar y blaen yn gynnar yn ry ail gyfnod. Hayes yn torri’r trap camsefyll cyn curo Chris Hugh a chodi’r bêl yn gelfydd dros Lewis yn y gôl am ei ail o’r gêm.

Gwagio’r fainc

Taflodd Gavin Chesterfield bopeth at Gaernarfon wedi hynny gan anfon pob eilydd a oedd ganddo ar y fainc i’r cae, ar wahân i’r tri gôl-geidwad a oedd arni hynny yw!

Ychydig iawn o effaith a gafodd hynny mewn gwirionedd ac roedd y chwaraewyr newydd, gan gynnwys Kayne McLaggon a oedd yn amlwg ddim yn ffit, cyn waethed â’r un ar ddeg a ddechreuodd.

Llwyddodd y tîm cartref i adeiladu ychydig o bwysau o’r diwedd yn y munudau olaf ond cael eu cosbi a wnaethant gan wrthymosodiad gan y Cofis, y dylanwadol Paulo Mendes yn creu a’r eilydd Jacob Bickerstaff yn gorffen yn daclus i’r gornel isaf.

 

*

 

Penybont 0-1 Y Drenewydd

Y Drenewydd a fydd gwrthwynebwyr Caernarfon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle wedi iddynt drechu Penybont yn gêm  gynderfynol arall yn Stadiwm SDM Glass ddydd Sul.

Efallai i’r tîm cartref orffen y tymor arferol yn bedwerydd a’r ymwelwyr yn seithfed ond roedd hon yn gêm agos gyda’r ddau dîm, yn ddealladwy, ofn colli.

Unig gôl y gêm

Wedi hanner cyntaf di sgôr, daeth yn gynyddol debygol wrth i’r ail hanner fynd yn ei flaen, y byddai un gôl yn setlo pethau, boed hynny yn y 90 munud neu mewn amser ychwanegol.

A daeth honno bum munud o ddiwedd y naw deg diolch i’r eilydd, Jamie Breese. Pum munud yn unig a oedd wedi bod ar y cae ac er i’w foli wreiddiol gael ei hatal gan amddiffynnwr fe adlamodd yn garedig iddo yn y cwrt cosbi a gorffennodd yn hynod daclus ar yr ail gyfle.

 

*

 

Rownd derfynol

Caernarfon a’r Drenewydd a fydd yn wynebu ei gilydd i frwydro am y safle Ewropeaidd olaf felly o flaen camerâu Sgorio amser cinio ddydd Sadwrn. A hynny ar yr Oval oherwydd safle’r Cofis yn y tabl ar ddiwedd y tymor arferol.