Casnewydd yw’r ail dîm pêl-droed o Gymru y penwythnos hwn i sicrhau eu lle yn ffeinals y gemau ail gyfle yn Wembley.

Yn dilyn buddugoliaeth Abertawe dros Barnsley yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, mae Casnewydd wedi curo Forest Green Rovers o 5-4 dros ddau gymal y gêm ail gyfle gyn-derfynol yn yr Ail Adran.

Bu’n rhaid i dîm Mike Flynn ddibynnu ar gôl hwyr Nicky Maynard i selio’r fuddugoliaeth mewn amodau llithrig yn Swydd Gaerloyw – er iddyn nhw golli’r ail gymal o 4-3.

Roedd ganddyn nhw fantais o ddwy gôl ar ôl y cymal cyntaf yn Rodney Parade, ond cafodd y fantais ei chwalu o fewn deg munud agoriadol yr ail gymal gyda Forest Green ar dân o’r gic gyntaf.

Sgoriodd Ebou Adams ac Aaron Collins yn gynnar yn yr ornest i unioni’r sgôr dros y ddau gymal.

Ond daeth eu trydedd gôl cyn yr egwyl i’w rhoi nhw ar y blaen o 3-2 ar gyfanswm goliau ac fe ddechreuodd Casnewydd gwrso’r gêm.

Cymerodd hi chwip o gôl o bellter oddi ar droed chwith yr eilydd Ellison i greu ychydig o fomentwm unwaith eto i Gasnewydd – ac fe gafodd hwnnw ei enwi’n seren y gêm am ei eiliad euraid.

Funudau’n ddiweddarach, derbyniodd Ryan Haynes y bêl gan Josh Sheehan i lawr yr asgell chwith, cyn croesi i’r cwrt cosbi a darganfod eilydd arall, Joss Labadie, a hwnnw’n rhoi ei dîm ar y blaen.

Ond daeth Forest Green yn gyfartal o fewn dim o dro pan rwydodd Jamille Matt, cyn-ymosodwr Casnewydd, i’w gwneud hi’n 4-4 dros y ddau gymal.

Gyda munud yn unig yn weddill ar y cloc cyn i’r timau wynebu hap a damwain ciciau o’r smotyn, fe wnaeth Nicky Maynard yn iawn am fethu cyfle cynharach drwy wthio’r bêl i’r rhwyd o’r tu fewn i’r cwrt cosbi.

Bydd Casnewydd yn herio Morecambe yn y ffeinal, ddau ddiwrnod ar ôl i Abertawe wynebu Brentford.