Sul olaf Uwch Gynghrair Lloegr, gemau ail gyfle a rowndiau terfynol cwpanau ar hyd ac ar led, mae hi wirioneddol yn teimlo fel diwedd tymor erbyn hyn. Ac o ran chwaraewyr Cymru, gyda Rob Page yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer yr Ewros ddydd Sul nesaf, y penwythnos hwn a oedd y cyfle olaf un i sicrhau sedd ar yr awyren i Faku.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Fel sydd yn arferol ar y penwythnos olaf, chwaraewyd pob gêm ar yr un adeg brynhawn dydd Sul a chafwyd y gêm orau o’r ddeg yn Stadiwm King Power wrth i Tottenham daro nôl i drechu Caerlŷr a’u hamddifadu o safle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

Roedd Spurs ddwy gôl i un ar ei hôl hi pan ddaeth Gareth Bale i’r cae fel eilydd hanner ffordd trwy’r ail hanner am ymddangosiad olaf ei gyfnod ar fenthyg gyda’r clwb. Trodd y gêm ar ei phen i waered bron yn syth wrth i gôl i’w rwyd ei hun gan Kasper Schmeichel unioni’r sgôr.

Sgoriodd Bale ddwy wedi hynny wrth i’r ymwelwyr ennill o bedair gôl i ddwy, yn dechrau a gorffen symudiad slic ar gyfer y gyntaf cyn rhwydo’r ail ar yr ail gynnig yn dilyn rhediad unigol da drwy ganol yr amddiffyn. Bale: 2, Söyüncü: 0.

Golyga’r goliau diweddaraf hyn fod record sgorio Bale ben ac ysgwydd yn well na’r un ymosodwr arall yn y gynghrair y tymor hwn. O’r 27 chwaraewr i sgorio 10 gôl neu fwy, mae ystadegau Bale o gôl bob 84 munud yn llawer gwell na’r nesaf ato, Kelechi Iheanacho gyda gôl bob 121 munud.

Newyddion da arall i gefnogwyr Cymru o’r gêm hon a oedd y munud a gafodd Joe Rodon ar ei diwedd. Mae’r amddiffynnwr canol wedi bod yn gwbl absennol ers i Ryan Mason gymryd yr awenau felly roedd hi’n braf gweld cadarnhad ei fod yn ffit o leiaf, rhywbeth na allwn ei ddweud am Ben Davies ar hyn o bryd. Ar y fainc yr oedd Danny Ward i Gaerlŷr, yn amlwg.

Ar wahân i Bale ac efallai Ethan Ampadu, sydd yn parhau i fod wedi ei anafu, yr unig Gymro arall i gael tymor da yn yr Uwch Gynghrair a oedd Tyler Roberts. Cafodd rediad da yn nhîm Leeds wrth i wŷr Marcelo Bielsa orffen yn nawfed yn eu tymor cyntaf yn ôl yn y gystadleuaeth. Dechrau ar y fainc a wnaeth ar gyfer y gêm olaf yn erbyn West Brom ond daeth i’r cae am ugain munud wrth iddynt ennill o dair gôl i un.

Hal Robson-Kanu a gafodd yr un honno i West Brom, gôl gysur hwyr ar ôl dod i’r cae fel eilydd gyda hanner awr i fynd, y Cymro’n dyblu ei gyfanswm am y tymor ar ôl rhwydo ei gyntaf yn erbyn Lerpwl yr wythnos diwethaf.

Dychwelodd Daniel James i dîm Man U yn dilyn cyfnod allan gydag anaf wrth iddynt drechu Wolves o ddwy gôl i un. Deuddeg munud yn unig a gymerodd James i greu argraff, yn creu’r gôl gyntaf gyda chroesiad perffaith i Anthony Elanga. Roedd DJ yn un o sawl newid yn nhîm Ole Gunnar Solsklaer felly mae’n debyg mai ar y fainc y bydd yr asgellwr ar gyfer rownd derfynol Cwpan Ewropa yn erbyn Villarreal nos Fercher.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Neco Williams werth i Lerpwl sicrhau’r trydydd safle gyda buddugoliaeth yn erbyn Crystal Palace. Nid oedd Wayne Hennessey yng ngharfan yr ymwelwyr. Cynhesu’r fainc a wnaeth Neil Taylor unwaith eto ym muddugoliaeth Aston Villa dros Chelsea.

 

*

 

Y gemau ail gyfle

Sicrhaodd Abertawe eu lle yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth gyda gêm gyfartal yn erbyn Barnsley ar y Liberty nos Sadwrn. Roedd yr Elyrch gôl ar y blaen ers y cymal cyntaf gyda Ben Cabango yn chwarae rôl allweddol yng nghanol yr amddiffyn yn y ddwy gêm.

Ni wnaeth Connor Roberts ddechrau’r gêm ond fe wnaeth chwarae rhan helaeth o’r ail hanner ar ôl dod i’r cae fel eilydd yn lle Wayne Routledge. Ac ar ôl chwarae’i ran yn y cymal cyntaf, eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Liam Cullen yn yr ail gêm.

Brentford a fydd gwrthwynebwyr tîm Steve Cooper yn y rownd derfynol ar ôl iddynt drechu Bournemouth yn y rownd gynderfynol arall mewn gêm i’w anghofio i Chris Mepham yn erbyn ei gyn glwb.

Chris Mepham
Chris Mepham

Cerdyn coch amddiffynnwr canol Cymru a oedd trobwynt y gêm wrth i Brentford ennill o dair gôl i un ar y diwrnod a thair i ddwy dros y ddau gymal. Trosedd dyn olaf ar Bryan Mbeumo a arweiniodd at gawod gynnar Mepham ac fe ddaeth gêm David Brooks i ben yn fuan wedyn wrth iddo ef gael ei aberthu er mwyn dod ag amddiffynnwr arall i’r cae.

Bydd tri Chymro’n wynebu’i gilydd y rownd derfynol gemau ail gyfle’r Adran Gyntaf wrth i Blackpool Chris Maxwell herio tîm Regan Poole a Brennan Johnson, Lincoln.

Ildiodd Maxwell dair mewn gêm gyfartal yn erbyn Rhydychen nos Wener ond roedd y gwaith caled wedi’i wneud mewn buddugoliaeth o dair gôl i ddim yn y cymal cyntaf. Dibynnu ar fantais o’r cymal cyntaf a wnaeth Lincoln yn erbyn Sunderland hefyd. Sgoriodd Johnson yr ail gôl holl bwysig mewn buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim nos Fercher ac roedd hynny’n ddigon er iddynt golli o ddwy gôl i un yn yr ail gymal ddydd Sadwrn.

Mae Casnewydd un gêm i ffwrdd o ddyrchafiad o’r Ail Adran ar ôl cyrraedd y rownd derfynol yn dilyn gêm ddramatig yn erbyn Forest Green Rovers nos Sul. Roedd yr Alltudion ddwy gôl i ddim ar y blaen o’r cymal cyntaf ond cael a chael a oedd hi yn y diwedd wrth iddynt golli o bedair gôl i dair ar ôl amser ychwanegol ar y noson ond ennill o bum gôl i bedair ar gyfanswm goliau!

Dechreuodd Tom King, Liam Shephard, Josh Sheehan, Aaron Lewis a Lewis Collins y gêm i’r tîm o Gymru. Roedd Aaron Collins, brawd Lewis, yn nhîm Forest Green ac ef a sgoriodd eu hail gôl i unioni pethau yn gynnar yn y gêm hon. Y brawd ieuengaf, Lewis, a gafodd y gair olaf serch hynny, yn creu gôl fuddugol Nicky Maynard gyda phas wych, i osgoi ciciau o’r smotyn gyda dim ond munud o’r amser ychwanegol i fynd.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Roedd hi’n brynhawn siomedig i Christian Doidge yn rownd derfynol Cwpan yr Alban ddydd Sadwrn. Collodd ei dîm, Hibs, o gôl i ddim yn erbyn St Johnstone, ac ychydig o argraff a gafodd y Cymro er iddo chwarae’r 90 munud.

Roedd hi’n ffeinal y Cwpan yng Nghroatia nos Fercher hefyd gyda thîm Robbie Burton, Dinamo Zagreb, yn trechu tîm Dylan Levitt, NK Istra. Nid oedd y naill Gymro na’r llall yn y garfan ar gyfer y gêm serch hynny. Nid oeddynt yn rhan o gemau cynghrair olaf eu timau ddydd Sadwrn ychwaith, tymor hynod siomedig i’r ddau.

Ychwanegodd Aaron Ramsey at ei gasgliad trawiadol o fedalau enillwyr cwpanau domestig wrth i Juventus drechu Atalanta i godi’r Coppa Italia nos Fercher. Ar y fainc yr oedd y Cymro ar gyfer y rownd derfynol er iddo chwarae’i ran yn gynharach yn y rhediad.

Erbyn gêm gynghrair olaf Juve nos Sul, roedd Rambo wedi dioddef anaf cyhyrol ond yn ôl y sôn fe ddylai fod yn ffit i Gymru. Roedd buddugoliaeth Juventus o bedair gôl i un yn erbyn Bologna yn ddigon i sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf, ond a fydd Ramsey yno erbyn hynny tybed? Mae’r chwaraewr canol cae wedi cael tymor gwael mewn gwirionedd a fydd dim syndod ei weld yn gadael Turin dros yr haf.

*

 

Gwilym Dwyfor