Mae tri yn rhagor o ddynion wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r trais ar y strydoedd yn ardal Mayhill yn Abertawe wythnos ddiwethaf, meddai’r heddlu.
Mae saith o bobl bellach wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar Fai 20.
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a chafodd saith o swyddogion yr heddlu fân anafiadau yn y gwrthdaro gyda’r dorf, yn dilyn gwylnos yn Mayhill nos Iau.
Dywedodd Heddlu’r De bod tri dyn 18, 21, a 23 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ar ôl i bedwar dyn lleol 36, 20, 18 a 16 gael eu harestio cyn hynny.
O’r saith sydd wedi cael eu harestio mae dau ddyn 21 a 23 oed yn parhau yn y ddalfa ac mae pump wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth gyda nifer o amodau llym gan gynnwys cyrffiw dros nos.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Morgan, sy’n arwain yr ymchwiliad ei fod eisiau sicrhau’r cyhoedd y byddan nhw’n monitro amodau mechnïaeth y pum dyn yn ofalus ac yn gweithredu os ydyn nhw’n torri’r amodau hynny.
“Mae’r amodau yma mewn lle er mwyn caniatáu i ni gydweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a rhoi cyfle iddyn nhw ystyried yr holl dystiolaeth yn ei chyfanrwydd fel bod cyhuddiadau priodol yn cael eu dwyn yn erbyn y rhai oedd yn gysylltiedig.”
Mewn datganiad dywedodd yr heddlu nad oes rhagor o ddigwyddiadau o drais neu anhrefn wedi bod ers nos Iau ond bod mwy o bresenoldeb gan yr heddlu yn yr ardal.
Maen nhw’n disgwyl arestio rhagor o bobl, meddai Gareth Morgan.
Mae’r cyhoedd wedi cael eu hannog i roi enwau’r rhai oedd yn gyfrifol am y trais i’r heddlu.