Bydd teuluoedd a ffrindiau yn cael ymweld â’u hanwyliaid tu mewn i gartrefi gofal o heddiw (Dydd Llun, Mai 24) ymlaen.

Dim ond dau ymwelydd penodedig oedd yn cael ymweld â pherson tu mewn i gartrefi gofal yng Nghymru cyn hyn.

Mae gan unrhyw un hawl i ymweld â phreswyliwr nawr, ond dim ond dau ymwelydd fydd yn cael ymweld â’r person ar y tro.

Yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford, bydd y newidiadau yn “gwella ansawdd bywyd preswylwyr a’u teuluoedd”.

Roedd pobol yn cael ymweld â pherthnasau a ffrindiau tu allan i’r cartref gofal ers yr haf diwethaf, a dim ond ers Mawrth 13 eleni mae gan un ymwelydd penodedig hawl i fynd mewn.

Cafodd y cyfyngiadau eu llacio eto ddiwedd Ebrill, gan ganiatáu i ddau berson ymweld â phreswyliwr mewn cartref gofal yr un pryd.

Gan mai dim ond ymwelwyr penodedig oedd yn cael ymweld â chartrefi gofal dan y rheolau hynny, roedd yn golygu mai’r un dau berson oedd yn ymweld bob tro.

Gafael llaw

Dan y rheolau newydd, bydd unrhyw ddau berson yn cael ymweld â’u hanwyliaid tu mewn ar yr un pryd, ar ôl cael prawf Covid-19 negyddol.

Bydd ymwelwyr yn cael gafael yn llaw eu perthnasau ond bydd rhaid iddyn nhw wisgo masgiau, oni bai eu bod nhw’n cadw pellter oddi wrth y preswylwyr ac mewn ystafell sy’n cael digon o aer.

Nid yw babis a phlant bach iawn yn cael eu cynnwys yn y cyfri, ond mae Llywodraeth Cymru yn eu hannog nhw i beidio ymweld tu mewn yn sgil pryderon am ymbellhau cymdeithasol.

Bellach mae unrhyw faint o bobol yn cael ymweld â pherthynas tu allan i’r cartref gofal, ac mae pobol yn cael mynd ag anifeiliaid efo nhw i gartrefi gofal.

Er bod rheolau Llywodraeth Cymru yn newid heddiw, awdurdodau lleol a chartrefi gofal unigol sy’n penderfynu a ydyn nhw am ganiatáu ymweliadau ai peidio.