Mae cyn-Brif Weinidog Cymru wedi rhybuddio am y bygythiadau enfawr sy’n wynebu Cymru a’r blaned, os na fydd ymdrechion mawr i leihau newid hinsawdd.

Yn ei rôl newydd fel Cadeirydd elusen amgylcheddol Maint Cymru, mae Carwyn Jones wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i helpu, ac yn annog y genedl i ymuno mewn diwrnod o weithredu.

Gan gamu lawr o’r Senedd ar ôl 22 mlynedd, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn gwneud yr hinsawdd yn brif flaenoriaeth yn ei fywyd ar ôl gwleidyddiaeth.

Mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur wedi tynnu sylw at ba mor agored i niwed yw Cymru yn sgil newid hinsawdd, a sut gallai arfordir Cymru fod dan ddŵr erbyn 2050 heb fod camau pendant yn cael eu cymryd i atal cynhesu byd eang.

Diwrnod Gwyrdd

Er mwyn ysbrydoli pobol yng Nghymru i weithredu, mae Carwyn Jones yn galw ar bawb i gymryd rhan mewn diwrnod o weithredu cenedlaethol ar 25 Mehefin eleni.

Bob blwyddyn, mae Maint Cymru yn cynnal ‘Diwrnod Gwyrdd’ er mwyn annog pobol, ysgolion, busnesau, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu a diogelu coedwigoedd trofannol.

Thema’r diwrnod eleni yw ‘Cymru dros y Coedwigoedd’, a hynny mewn ymateb i’r datgoedwigo cyflym sy’n digwydd mewn llefydd fel yr Amazon.

Yn ogystal ag annog y rhai sy’n cymryd rhan i godi arian ar gyfer prosiectau i ddiogelu coedwigoedd, mae Maint Cymru’n galw ar ddinasyddion i ymgyrchu i geisio cael y Senedd i gynyddu eu hymdrechion.

Esbonia’r elusen fod datgoedwigo trofannol yn digwydd oherwydd bod cynhyrchion bob dydd, megis olew palmwydd anghynaladwy a chig eidion o Dde America, yn cael eu defnyddio yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill.

“Ysbrydoli eraill”

“Yn ystod fy nghyfnod fel Prif Weinidog, rwyf wedi delio’n uniongyrchol â’r bygythiad mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi i’n cenedl a’n planed,” meddai Carwyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr newydd Maint Cymru.

“Dim ond rhai o’r materion sy’n ein hwynebu yw llifogydd mewn trefi a dinasoedd, ein system amaethyddol yn cael ei dinistrio; a phroblemau iechyd sydd yn cael eu hachosi gan ansawdd aer gwael, oni bai bod camau pendant yn cael eu cymryd nawr.

“Efallai fy mod i wedi gadael gwleidyddiaeth rheng flaen, ond rwy’n bwriadu parhau i ymgyrchu dros faterion pwysig, a does dim llawer sy’n fwy pwysig na newid yn yr hinsawdd.

“Drwy fy rôl newydd, rwy’n gobeithio ysbrydoli eraill i weithredu ar yr hinsawdd, a sicrhau bod Cymru’n chwarae rhan bwysig yn yr ymdrechion byd-eang yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.”

“Cyfoeth o brofiad”

“Rydym yn falch iawn o gael rhywun fel Carwyn, sy’n cael ei barchu’n genedlaethol, yn ymuno â’n sefydliad ar yr adeg dyngedfennol hon,” ychwanegodd Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru.

“Mae ganddo gyfoeth o brofiad, ond hanes ar y lefel uchaf mewn llywodraeth hefyd, o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Rydym yn angerddol am gysylltu Cymru â gweddill y byd i helpu i ddiogelu coedwigoedd, ac mae Carwyn mewn sefyllfa wych i’n helpu yn y genhadaeth hon.

“Rwy’n adleisio ei alwadau i bobl gymryd rhan yn Niwrnod Gwyrdd Maint Cymru ar 25 Mehefin, a dangos bod Cymru gyfan yn unedig o ran bod eisiau diogelu dyfodol ein planed.”

Mae Maint Cymru yn cefnogi prosiectau diogelu coedwigoedd a thyfu coed yn Affrica, De America, a De-ddwyrain Asia, yn ogystal â rhedeg rhaglen addysgol ar draws Cymru, ac yn ei rôl newydd, bydd Carwyn Jones yn darparu arweiniad strategol i’r sefydliad, a chadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.