Mae un o wrthwynebwyr Arlywydd Belarws, Alexander Lukashenko, wedi cael ei arestio ar ôl i’r awyren Ryanair roedd yn teithio ynddi gael ei gorfodi i lanio yn y wlad.
Mae rhai sy’n gwrthwynebu’r arlywydd a gwledydd y gorllewin wedi beirniadu’r digwyddiad oedd wedi arwain at arestio’r newyddiadurwr Raman Pratasevich.
Roedd Raman Pratasevich ar awyren Ryanair oedd yn teithio o Athen yng Ngwlad Groeg i Lithwania pan fu’n rhaid arallgyfeirio i Minsk yn dilyn adroddiadau bod bom ar yr awyren.
Roedd yr awyren tua chwe milltir o Lithwania pan gafodd ei harallgyfeirio. Mae adroddiadau cymysg am yr hyn ddigwyddodd.
Yn ôl swyddogion y wasg ar ran Alexander Lukashenko roedd yr arlywydd wedi gorchymyn bod awyren ryfel yn goruchwylio’r awyren Ryanair ar ôl iddo gael gwybod am fygythiad bom. Ni chafwyd hyd i unrhyw ffrwydron ar yr awyren.
Dywedodd Ryanair mewn datganiad bod swyddogion rheoli traffig awyr ym Melarws wedi rhoi cyfarwyddiadau i ddargyfeirio’r awyren i’r brifddinas Minsk.
Ond yn ôl arlywydd Lithwania Gitanas Nauseda roedd y digwyddiad yn “weithred frawychol gan y wladwriaeth”.
Dywedodd y byddai’r Cyngor Ewropeaidd yn trafod yr achos ddydd Llun (Mai 24) ac y byddai’n argymell gwahardd awyrennau Belarws o feysydd awyr yr Undeb Ewropeaidd a chyflwyno “sancsiynau llym” yn erbyn llywodraeth Alexander Lukashenko.
Fe allai Raman Pratasevich wynebu 15 mlynedd yn y carchar os yw’n ei gael yn euog o nifer o gyhuddiadau. Mae’n un o gyd-sylfaenwyr ap sianel Nexta. Roedd swyddogion ym Melarws wedi cyhoeddi’r llynedd bod yr ap yn eithafol am ei fod wedi’i ddefnyddio i drefnu protestiadau mawr yn erbyn Alexander Lukashenko.
Fe fu misoedd o brotestiadau ym Melarws ar ôl yr etholiad arlywyddol ym mis Awst y llynedd pan enillodd Alexander Lukashenko chweched tymor yn y swydd. Er bod y protestiadau wedi tawelu dros y gaeaf mae Belarws yn parhau i weithredu yn erbyn y rhai oedd yn gwrthwynebu Alexander Lukashenko a chyfryngau newyddion annibynnol.