Mae Ofgem wedi cyhoeddi eu bod nhw’n buddsoddi £300 miliwn er mwyn ehangu rhwydwaith pweru cerbydau trydan y Deyrnas Unedig.

Dywedodd y rheolwyr ynni fod yr arian yn mynd tuag at fwy na 200 o brosiectau carbon isel, er mwyn helpu i baratoi’r Deyrnas Unedig at gael mwy o drafnidiaeth drydan.

Mae Llandudno yn Sir Conwy ymhlith y lleoliadau fydd yn elwa o’r buddsoddiad, yn ogystal â llefydd megis Glasgow, Truro, Caer Efrog, a Warrington.

Yn ôl Ofgem, bydd yr arian yn mynd yn rhannol tuag at osod gwifrau sydd eu hangen ar gyfer lansio “1,800 pwyntiau pŵer newydd”, gan dreblu’r rhwydwaith.

Bydd 1,750 o bwyntiau pŵer ychwanegol yn cael eu gosod mewn trefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig hefyd.

“Angen uwchraddio’n eithriadol”

Mae’r buddsoddiad, a fydd yn digwydd dros y ddwy flynedd nesaf, yn adlewyrchu’r ffaith fod gwifrau, is-orsafoedd, ac isadeiledd y Deyrnas Unedig “angen cael eu huwchraddio’n eithriadol” er mwyn ymdopi â’r cynnydd mewn galw.

“Bydd y taliad yn cefnogi’r cynnydd sydyn mewn pryniant cerbydau trydan a fydd yn hanfodol os yw Prydain am gyrraedd eu targedau newid hinsawdd,” meddai Jonathan Brearley, prif weithredwr Ofgem.

“Rhaid i yrwyr fod yn hyderus eu bod nhw’n gallu pweru eu car yn sydyn pan fo angen.”

“Dw i’n croesawu’r newyddion heddiw gan Ofgem, a fydd yn gwella gwytnwch ein rhwydwaith pweru yn sylweddol wrth i ni adeiladu’n ôl yn wyrddach,” dywedodd Rachel Maclean, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Gyda mwy na 500,000 o geir trydan ar ffyrdd y Deyrnas Unedig nawr, bydd hyn yn helpu i gynyddu’r rhif eto wrth i yrwyr parhau i symud at gerbydau glanach a gwyrddach.”