Mae tua chwe thafarn yn diflannu o gymunedau’r Deyrnas Unedig bob wythnos ers dechrau’r pandemig, yn ôl ystadegau newydd.
Dangosa ystadegau fod 384 o dafarndai wedi cau neu newid eu defnydd ledled y Deyrnas Unedig dros y 14 mis diwethaf.
Wrth i’r pandemig fynd yn ei flaen, fe wnaeth nifer y tafarndai oedd yn cau eu drysau yn barhaol leihau yn sgil cefnogaeth ariannol megis ffyrlo, a grantiau lletygarwch, yn ôl y grŵp cynghori eiddo tirol Altus.
Fodd bynnag, mae rhai o dafarndai cymunedol Cymru wedi dweud wrth golwg360 fod busnes wedi “bod yn dda iawn” ers ailagor, a dywedodd un o wirfoddolwyr yr Iorwerth Arms ar Ynys Môn eu bod nhw’n “trio gwneud pob dim i gadw’r busnes i fynd”.
Mae Tafarn y Plu yn Llanystumdwy wedi bod yn “brysur iawn” ers cael ailagor, yn ôl un o aelodau’r pwyllgor sy’n tybio fod yna “fwy o deyrngarwch, ella, i dafarn gymunedol gan mai dyma’r unig beth” sydd yn y pentref.
“Fedra i ddim cwyno”
“O ran y busnes, fedra i ddim cwyno o gwbl,” meddai Rhian Hughes, sy’n gwirfoddoli yn nhafarn gymunedol yr Iorwerth Arms ym Mryngwran, Ynys Môn.
“Mae pobol yn falch o gael dod allan am sgwrs, pobol yn cael pryd o fwyd.
“Dw i’n meddwl fod pobol wedi cael eu cau mewn ers cymaint, bod nhw’n meddwl eu bod nhw’n cael dod allan a bod y rheolau ddim mor dynn ag y maen nhw,” dywedodd, gan gyfeirio at y ffaith ei bod hi’n gallu bod yn “dipyn o job” atgoffa cwmseriaid i wisgo masgiau.
“Am ein bod ni’n dafarn gymunedol, mae yna lot o bobol dal ddim wedi bod yn dod. Roedden ni’n arfer gwneud te prynhawn i’r gymuned, ac rydyn ni wedi bod yn ei ddanfon.
“Ond dw i’n gobeithio ail-ddechrau’r te prynhawn i weld os gawn ni’r bobol hŷn yn dod, mae yna dal ofn mawr yna dw i’n meddwl.
“Rydyn ni’n gobeithio hybu hynny mwy yn y bythefnos nesaf… efo unigrwydd ac ati hefyd,” esboniodd Rhian Hughes wrth gyfeirio at y ffaith fod ambell berson wedi dweud wrthi eu bod nhw’n disgwyl nes cael ail ddos o’r brechlyn cyn dychwelyd i’r dafarn.
“Mynd yn dda”
Mae ystadegau cynnar yn awgrymu fod gwerthiannau mewn tafarndai, bwytai, a bariau wedi cynyddu 1/4 ar y diwrnod y cyntaf y gwnaeth y sector ailagor tu mewn, o gymharu â gwerthiannau cyn y pandemig.
“Rydyn ni wedi cael chef newydd, mae hynny’n mynd yn dda. Mae pobol yn falch o gael dod allan am bryd o fwyd wan,” eglurodd Rhian Hughes.
“O ran busnes, mae hi wedi bod yn dda iawn arnom ni.
“Fedra’ i hand on heart ddweud ein bod ni wedi gwneud yn iawn ers agor, ond mae dydd Llun i ddydd Iau yn dawel ofnadwy – ond fel hynny oedd hi cynt, mae pobol yn gweithio.
“Ond o ran ymlacio ar y penwythnos, mae’r busnes wedi bod yn dda iawn.”
Fe wnaeth hi gydnabod fod y cyfnod cyn ailagor wedi bod yn un anodd, ond ei fod yn gyfle i ddod ynghyd â meddwl sut i fynd â’r busnes yn ei flaen.
“Rydyn ni wedi codi safon, rydyn ni wedi gwneud bar newydd a byrddau newydd,” meddai.
“Rydyn ni wedi codi’n statws dw i’n meddwl, wedi cael chef newydd a menu newydd. Rydyn ni’n trio gwneud pob dim i gadw busnes i fynd.”
“Lwcus iawn”
“Mae hi’n mynd yn dda iawn i ni â dweud y gwir,” meddai Miriam Williams, aelod o bwyllgor Tafarn y Plu yn Llanystumdwy, wrth golwg360.
“Yndi, mae hi wedi bod yn anodd achos ein bod ni wedi gorfod bod ar gau, ond fuon ni’n ffodus iawn – fe wnaethom ni allu derbyn ffyrlo ar gyfer y staff felly rydyn ni wedi gallu cadw’n pen uwchben y dŵr.
“Ond ers i ni agor, mae hi wedi bod yn brysur iawn.
“Rydyn ni wedi cael mwy o lefydd tu allan hefyd, ac mae hynny wedi bod yn lot o help i ni.
“Yn amlwg, mae lot o bobol yn anghyfforddus efo mynd tu mewn, er ein bod ni’n cael rŵan. Rydyn ni’n gallu denu mwy o bobol nag oedden ni cynt.
“Mae’r lle tu allan wedi altro gymaint, rydyn ni’n lwcus iawn,” meddai Miriam Williams wrth esbonio fod Tafarn y Plu wedi agor fel tafarn gymunedol yn ystod haf 2019, ac felly heb fod ar agor am flwyddyn lawn cyn y pandemig.
“Rydyn ni wedi cael lot o gefnogaeth – pobol leol, ac mae yna bobol o lefydd fatha Pwllheli wedi bod yn dod yma achos nad oes yna’r un lle ar agor tu allan ym Mhwllheli.
“Mae yna lot o bobol ifanc wedi bod yn dod yma, sy’n neis. Mae hi mor braf gweld pobol ifanc yma.”
“Mwy o deyrngarwch”
Gan ei bod hi’n dafarn gymunedol, mae Miriam Williams yn tybio fod mwy o bobol yn gefnogol oherwydd mai’r gymuned sy’n berchen arni.
“Mae gen ti fwy o deyrngarwch, ella, i dafarn gymunedol, achos mai dyma’r unig beth sydd yma,” ychwanegodd.
“Os fysa ni’n colli’r dafarn, fysa’r gymuned lot tlotach.
“Felly, ella fod pobol yn gwneud mwy o ymdrech i’n cefnogi ni.
“Hyd yn hyn, mae hi’n mynd yn grêt. Mae yna lot o gefnogaeth, rydyn ni wedi gallu prynu’r capel a bob dim.
“Mae yna ddigon o bobol yn ein cefnogi ni, sy’n ein galluogi ni i wneud pethau eraill hefyd – sy’n beth da.”
“Amser ofnadwy”
Dywedodd Robert Hayton, o Grŵp Altus, fod y gefnogaeth ariannol wedi bod yn ddigonol i gynnal y mwyafrif o dafarndai nes iddyn nhw gael ailagor.
“Mae tafarndai wedi dioddef amser ofnadwy yn ystod y pandemig, ond wedi profi i fod yn wydn eithriadol gyda chymorth gan ymyrraeth y Llywodraeth,” meddai Robert Hayton.