Mae gan haint Covid-19 arogl penodol sy’n gallu cael ei ganfod gan gŵn sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, gyda chywirdeb hyd at 94%.
Dyna mae canfyddiadau ymchwil y Deyrnas Unedig yn ei awgrymu, er nad yw wedi cael ei adolygu eto.
Mae’r ymchwil yn seiliedig ar chwe chi a brofodd dros 3,500 o samplau arogleuon a roddwyd gan y cyhoedd a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Roedd y cŵn yn gallu arolgli samplau gan bobol a oedd wedi’u heintio â’r coronafeirws ond a oedd heb symptomau, yn ogystal â’r rhai a oedd â llwythi feirysol isel.
Roeddent hefyd yn gallu nodi heintiau a achoswyd gan y math o coronafeirws a oedd yn dominyddu yn y Deyrnas Unedig yn yr haf y llynedd yn ogystal âg amrywiolyn Caint o’r feirws a ymddangosodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dywedodd yr Athro James Logan, pennaeth yr adran rheoli clefydau yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain (LSHTM), a arweiniodd y prosiect: “Yr hyn oedd yn wych oedd bod y cŵn sydd wedi’u hyfforddi i arogli’r amrywiolyn gwreiddiol yn gallu trosglwyddo i’r amrywiolyn newydd (Caint).
“Gallen nhw ganfod yr amrywiolyn newydd heb unrhyw hyfforddiant ychwanegol.
“Felly mae hyn yn rhoi gobaith gwirioneddol i ni ac yn awgrymu’n fawr bod cŵn yn gallu canfod gwahanol amrywiolion o Covid.”
Daeth y chwe chi – Asher, Kyp, Lexie, Tala, Millie, a Marlow – o’r elusen Medical Detection Dogs i gymryd rhan yn y prawf.
Nid oedd y tîm ymchwilio na’r cŵn yn gwybod pa samplau arogl oedd wedi dod gan bobol wedi’u heintio â Covid-19 a pha rai oedd heb ei heintio.
Dangosodd yr ymchwil, a ariannwyd yn rhannol gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Deyrnas Unedig, fod y cŵn a hyfforddwyd yn arbennig yn gallu canfod samplau sydd wedi’u heintio â coronafeirws yn gyflym gyda chywirdeb hyd at 94%.
Profi ar bobol go iawn
Dywedodd y gwyddonwyr y bydd y cam nesaf yn profi a yw’r cŵn hyn yn gallu canfod y coronafeirws ar bobol mewn lleoliadau fel meysydd awyr a digwyddiadau chwaraeon.
Yn y cyfamser, mae dadansoddiad rhagarweiniol yn awgrymu y gallai dau gi sgrinio 300 o deithwyr awyren mewn hanner awr.
Dywedodd yr ymchwilwyr y byddai angen prawf PCR ar unigolion sy’n cael eu hadnabod gan y cŵn i gadarnhau diagnosis.
Credant y gallai cyfuniad o gŵn sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, ynghyd â phrofion PCR, helpu i ganfod mwy na dwywaith cymaint o achosion a haneru’r raddfa drosglwyddo.
“Cyffrous”
Dywedodd yr Athro Steve Lindsay, o adran y biowyddorau ym Mhrifysgol Durham: “Mae hwn yn ganlyniad cyffrous iawn sy’n dangos bod arogl amlwg yn gysylltiedig â Covid-19 ac, yn bwysicach, y gall cŵn hyfforddedig ganfod hyn gyda lefel uchel o gywirdeb.
“Gallai cŵn fod yn ffordd wych o sgrinio nifer fawr o bobol yn gyflym ac atal Covid-19 rhag cael ei ailgyflwyno i’r Deyrnas Unedig.
“Gallai cŵn hyfforddedig weithredu fel offeryn sgrinio cyflym i deithwyr, gyda’r rhai y nodwyd eu bod yn heintus yn cael eu cadarnhau gyda phrawf labordy.
“Gallai hyn wneud profi’n gyflymach ac arbed arian.”