Mae Heddlu Gwent wedi arestio naw llanc yn dilyn adroddiadau eu bod wedi’u gweld gyda batiau pêl-fâs yng Nghwmbrân ddydd Sul (Mai 23).
Roedd yr heddlu wedi derbyn nifer o alwadau ffôn gan y cyhoedd yn adrodd bod grwpiau o bobl ifanc gydag arfau wedi’u gweld yn Heol Wern yn y dref tua 3pm bnawn ddoe.
Roedd swyddogion arfog wedi’u hanfon i’r ardal fel rhagofal a daethon nhw o hyd i fat pel-fâs a bariau metel.
Dywed yr heddlu bod y rhai gafodd eu harestio yn parhau yn y ddalfa ac ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Ychwanegodd y llefarydd bod gorchymyn gwasgaru mewn grym am 24 awr ar gyfer canol tref Cwmbrân. Fe fydd mewn grym tan 5.15pm prynhawn heddiw (Dydd Llun, Mai 24).
Mae’r gorchymyn yn rhoi’r hawl i’r heddlu ofyn i grwpiau o’r fath adael yr ardal os yw eu hymddygiad yn debygol o achosi anhrefn neu bryder i aelodau o’r cyhoedd.