Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd newydd, wedi defnyddio ei chynhadledd i’r wasg gyntaf ers cael ei phenodi i’r swydd i rybuddio bod y “coronafeirws yn dal i fod gyda ni”.
Dywedodd fod cyfraddau achosion Cymru yn “is nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig” ond ei bod hi’n “bwysig ein bod ni’n wyliadwrus wrth i ni ailagor ein heconomi gan wybod bod yr amrywiolyn newydd yn gallu ymledu yn gyflym”.
Daw hyn yn sgil cynnydd mewn achosion o amrywiolyn India yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
Cadarnhaodd Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, fod 57 achos o’r amrywiolyn wedi cael ei gadarnhau yng Nghymru.
“Dylai’r cyhoedd boeni am adfywiad y coronafeirws yn gyffredinol,” meddai yntau.
“Rydyn ni’n edrych yn ofalus ar amrywiolyn India.
“Bydd yno ragor…”
“Ar hyn o bryd mae 57 o achosion sydd wedi eu cadarnhau yma yng Nghymru – mae’r nifer yn codi, ac wedi codi dros y dyddiau diwethaf – felly mae’n rhywbeth y mae angen i ni ei wylio’n ofalus iawn.
“Bydd yno ragor o achosion – a gallwn ddisgwyl i’r niferoedd hynny godi, ond mae dal i fod yn nifer isel wrth edrych ar y darlun llawn.”
O’r 57 achos o’r amrywiolyn yng Nghymru, roedd y nifer fwyaf wedi’u lleoli mewn clystyrau o amgylch Caerdydd, gydag eraill hefyd wedi’u lleoli yn Abertawe a “nifer fach” yn y Gogledd, meddai Dr Atherton.
Ond, meddai, yn wahanol i Loegr a’r Alban nid oes unrhyw dystiolaeth o drosglwyddiadau eang o’r amrywiolyn o berson i berson yng Nghymru, gyda phob achos a nodwyd yn gallu cael ei olrhain yn ôl i bwynt mynediad penodol i’r wlad.
Pan ofynnwyd a fyddai Llywodraeth Cymru’n ystyried gosod cyfyngiadau ar deithio i ac o ardaloedd yn Lloegr lle’r oedd achosion yn codi, fel Bolton, dywedodd Eluned Morgan nad yw Llywodraeth Cymru “wedi gwneud unrhyw benderfyniadau i gyfyngu ar deithio” ond y byddai’n “parhau i adolygu’r sefyllfa’n gyson”.
Dywedodd Dr Atherton ei bod hi’n hanfodol fod pobol yn parhau i olchi dwylo, cadw pellter cymdeithasol a dilyn mesurau diogelwch eraill.
Y sefyllfa gyfredol o ran llacio
Symudodd Cymru i rybudd lefel dau ar 17 Mai wrth ailagor lleoliadau lletygarwch ac adloniant dan do.
Ynghyd ag ailagor gwasanaeth dan do ar gyfer tafarndai, bwytai, bariau a chaffis, yn ogystal â lleoliadau adloniant fel sinemâu, caniatawyd i hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn digwyddiadau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl mewn digwyddiadau awyr agored wedi’u trefnu.
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud y gellid caniatáu i wyliau bwyd bach a digwyddiadau cerddoriaeth a chelfyddydau byw bach ailddechrau hefyd os na fydd angen oedi’r llacio oherwydd amrywiolyn India.
Mae disgwyl cyhoeddiadau pellach ar ddiwedd y cyfnod adolygu cyfredol ar 4 Mehefin.
Dywedodd Eluned Morgan heddiw fod 80% o oedolion yng Nghymru bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid, gan gynnwys 50% o bobl rhwng 18 a 29 oed.
Roedd traean o oedolion Cymru hefyd wedi derbyn y ddau ddos, gyda’r rhaglen frechu barhaus yn cynnig y “ffordd orau o ddelio’n wirioneddol â’r amrywiolyn newydd hwn”, meddai.
Rhybudd i beidio teithio dramor
Er bod teithio rhyngwladol yn cael ei ganiatáu o dan y system goleuadau traffig, mae Mr Drakeford wedi dweud bod pryderon ei Lywodraeth ynghylch mewnforio’r feirws yn golygu y byddai’n cynghori pobl i beidio â theithio dramor yn ystod 2021.
Ac heddiw, rhybuddiodd Eluned Morgan bobol i beidio â theithio dramor oni bai fod y daith yn “hanfodol”.
“Mae llawer o sylw wedi bod ar deithio rhyngwladol dros y dyddiau diwethaf, ac yn y tywydd diflas diweddar mae’n ddealladwy y bydd llawer o bobol yn cael eu temtio gan yr addewid o haul a gwyliau dramor,” meddai.
“Ond byddem yn gofyn yn gryf i chi beidio â theithio eto.
“Fel arall mae perygl i ni ddod â’r feirws – neu, yn fwy pryderus, amrywiolyn newydd – yn ôl adref gyda ni i Gymru.”
Rhestrau aros
Wrth drafod rhestrau aros Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, dywedodd Eluned Morgan na “ddylai unrhyw un fod ag unrhyw amheuaeth am y dasg sydd o’n blaenau”.
Ychwanegodd y byddai amynedd yn allweddol i ostwng y nifer sydd ar restrau aros gan fod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu tasg “anferthol”.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad o £100m er mwyn mynd i’r afael â rhestrau aros a rhoi hwb i adferiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r system ofal yn dilyn y pandemig.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 568,367 o gleifion yng Nghymru yn aros am driniaeth ym mis Mawrth 2021 – mae hyn yn 18% o boblogaeth Cymru.
Dyma’r nifer uchaf erioed ers i’r data ddechrau cael ei gasglu yn 2011.
Felly yn ddigon naturiol dywedodd Eluned Morgan mai “dim ond y dechrau yw hyn”.
“Byddwn yn cefnogi staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a rhoi’r hyn sydd ei angen arnynt er mwyn sicrhau bod pobol sy’n disgwyl am driniaeth ddim yn disgwyl diwrnod yn hirach nag sydd yn rhaid iddynt.”
Mae’r ffigurau ar gyfer mis Mawrth 2021 hefyd yn dangos bod dros 216,418 o gleifion wedi aros mwy na 36 wythnos am eu triniaeth – sydd wedi codi o 28,294 o bobol ym mis Mawrth 2020.