Mae arolwg newydd ar gysylltedd digidol yn dangos fod bwlch enfawr rhwng ardaloedd trefol a chefn gwlad, o ran mynediad at fand eang, ei sefydlogrwydd, a signal ffôn.

Yn ôl yr arolwg, a gafodd ei gynnal gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru, a CFfI Cymru, dywedodd dros 50% o ymatebwyr o ardaloedd gwledig eu bod nhw’n teimlo nad oedd eu cysylltiad rhyngrwyd yn gyflym a dibynadwy.

Dywedodd llai na 50% o bobol mewn ardaloedd gwledig fod ganddyn nhw fand eang safonol, a dim ond 36% oedd â band eang cyflym iawn.

Nododd 66% fod band eang gwael yn effeithio arnyn nhw, o gymharu ag ardaloedd trefol lle dywedodd 67% fod ganddyn nhw fand eang cyflym iawn.

Er bod 80% o’r bobol a gymerodd ran yn defnyddio eu ffonau symudol i fynd ar y we, dim ond 68% o’r rhai â ffôn clyfar oedd â mynediad at rwydwaith 4G neu 5G.

Dywedodd 57% o bobol mewn ardaloedd gwledig fod eu signal ffôn yn ‘annibynadwy’ yn eu cartrefi, a nododd 49% fod y signal yn ‘annibynadwy’ tu allan.

“Anodd gweithio o gartref”

Pwysleisiodd yr ymatebwyr fod yr heriau o weithio o gartref, a phlant yn cael eu haddysg o adre, wedi bod yn arbennig o anodd a rhwystredig yn ystod y pandemig oherwydd cysylltedd gwael.

Gan gynnig sylw ar sefyllfa band eang, dywedodd un ymatebydd fod y “band eang yn methu dros dro yn rheolaidd, a bod y methiannau hyn yn para oriau neu ddyddiau lawer yn rheolaidd”.

“Mae’n annibynadwy ar gyfer cyfarfodydd fideo ar-lein, ac ar ei orau 11-12mb rydyn ni’n eu cael,” meddai.

“Nid yw hyn yn ddigon i gynnal 3 o bobl sy’n gweithio ar lein, ond yn aml mae’n llawer llai a gallwn ni ddim dibynnu arno.”

“Does gen i ddim signal ffôn, sy’n gwneud hi’n anodd gweithio gartref. Rydw i’n defnyddio galwadau WiFi, ond mae’r rhyngrwyd yn rhy annibynadwy i hynny lwyddo,” meddai ymatebydd arall.

“Mae’n ei gwneud hi’n anodd gweithio o gartref a theimlaf nad wyf yn gwneud digon o gynnydd oherwydd y cyfyngiadau sydd ar yr hyn y gallaf ei wneud. Nid oes modd imi ymgymryd â’m llwyth gwaith arferol.

“Does dim signal ffôn symudol ac mae’n rhaid imi deithio 15 munud i’r un cyfeiriad, neu 25 munud i’r llall, cyn y gallaf wneud neu dderbyn galwad.

“Dyw’r signal ddim hyd yn oed yn 3G, felly does dim modd derbyn e-bost.”

“Testun pryder gwirioneddol”

“Mae’r amrywiaeth o wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael ar y rhyngrwyd yn unig wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y degawd diwethaf,” meddai’r pum sefydliad mewn datganiad ar y cyd.

“Bellach ystyrir mynediad i fand eang yn angenrheidiol gan y rhan fwyaf o fusnesau ac aelwydydd yn y Deyrnas Unedig.

“Daeth hyn yn arbennig o amlwg yn ystod y pandemig Covid-19 gan fod llawer wedi dibynnu ar fynediad i fand eang er mwyn cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ac i weithio’n rhithiol o gartref.

“Mae canfyddiadau ein harolwg felly’n destun pryder gwirioneddol. Er i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru wneud nifer o addewidion dros y blynyddoedd, mae’n amlwg nad aed i’r afael â’r rhaniad rhwng trefi a chefn gwlad.

“Mae’n amlwg bod cysylltedd digidol gwael yn cael effaith uniongyrchol ar ein cymunedau yng nghefn gwlad.

“Mae’n hanfodol i Lywodraeth nesaf Cymru fuddsoddi ymhellach mewn seilwaith yng nghefn gwlad er mwyn galluogi teuluoedd cefn gwlad, busnesau ffermio, ac eraill i fanteisio ar gyfleoedd cysylltedd digidol, heb gael eu gadael ar ôl, gan gynyddu’r rhaniad digidol rhwng trefi a chefn gwlad.

“Rhaid cydnabod bod band eang a signal ffôn symudol yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol yng Nghymru.”

Mae’r sefydliadau wedi ysgrifennu at Mark Drakeford, ac maen nhw wedi galw am gyfarfod i drafod gweledigaeth ac amserlen Llywodraeth Cymru i ddarparu mynediad at gysylltedd cyflym a dibynadwy i bawb.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Gan bwysleisio nad yw band eang yn faes sydd wedi’i ddatganoli, ymatebodd Llywodraeth Cymru gan ddweud eu bod wedi “sicrhau buddsoddiad gwerth £200m o’r sector cyhoeddus sydd wedi galluogi 95% o eiddo i fanteisio ar fand eang cyflym iawn.”

“Mae gennym wahanol fesurau er mwyn helpu pobl nad oes ganddynt fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy sy’n cynnwys ein Cronfa Band Eang Lleol sydd werth £10 miliwn, ein cynllun grantiau Allwedd Band Eang Cymru a’n camau i gynyddu gwerth talebau gigabeit Llywodraeth y DU,” meddai llefarydd.

“Bydd ein cynllun presennol gydag Openreach hefyd yn sicrhau bod 39,000 eiddo arall yn derbyn band eang ffeibr llawn.

“Ni fyddai’r eiddo hyn wedi derbyn band eang fel arall.

“Er ein bod yn parhau i ymyrryd yn y maes hwn nad yw wedi’i ddatganoli rydym hefyd yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod ei buddsoddiad yn diwallu anghenion cefn gwlad Cymru.”