Mae Max Mosley, cyn-lywydd corff llywodraethu’r byd rasio ceir, y FIA, wedi marw yn 81 oed.

Daeth Mosley yn llywydd FIA ym 1993 ar ôl gwasanaethu mewn rolau gweinyddol blaenorol ym maes chwaraeon modur, gan gynnwys o fewn Fformiwla Un.

Gwnaeth dri thymor fel llywydd cyn sefyll i lawr yn 2009. Caiff ei gyfnod fel llywydd ei gydnabod am y gweliannau a wnaed o ran diogelwch y gyrrwyr.

“Roedd Max fel teulu i mi. Roedden ni fel brodyr. Rwy’n falch [am y newyddion] mewn ffordd oherwydd iddo ddioddef yn rhy hir,” meddai Bernie Ecclestone, cyn-brif weithredwr Fformiwla Un, wrth gadarnhau’r newyddion.

Cefndir

Roedd Mosley, a aned yn Llundain ar 13 Ebrill 1940, yn fab i arweinydd ffasgaidd Prydain yn y 1930au, Syr Oswald Mosley.

Yn 2008 enillodd achos preifatrwydd yn erbyn papur newydd The News of the World ar ôl i’r papur gyhoeddi ffotograffau a fideo o sesiwn ryw sadomasocistaidd.

Galwodd y papur newydd hynny yn “sick Nazi orgy”, ond ni chanfu Ustus Eady unrhyw dystiolaeth o themâu Naziaidd.

Dywedodd yr Ustus hefyd nad oedd budd i’r cyhoedd yn y recordiad cudd a wnaed.

Profodd Mosley, a oedd wedi bod yn dioddef o ganser, drasiedi deuluol yn 2009 pan fu farw ei fab Alexander yn 39 oed.

Dyfarnodd y crwner fod marwolaeth Alexander yn ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau.

Astudiodd Max Mosley ffiseg ym Mhrifysgol Rhydychen, ond hyfforddodd yn ddiweddarach fel cyfreithiwr a daeth yn fargyfreithiwr yn arbenigo mewn patentau a marciau masnach.

Dechreuodd ei gariad at rasio ceir yn ei ieuenctid ac roedd yn rhan o Fformiwla 2 gyda Brabham a Lotus cyn ymddeol yn 1969.