Mae penderfyniad Cyngor Cyfansoddiadol Ffrainc i wrthod deddfwriaeth a fyddai wedi rhoi’r hawl i ysgolion ddysgu’r rhan fwyaf o’u gwersi trwy gyfrwng ieithoedd brodorol wedi “codi tensiynau, a gwneud y Llydäwyr yn fwy penderfynol”, yn ôl Aneirin Karadog.
Byddai’r ddeddfwriaeth, a gafodd ei chynnig gan y gwleidydd Llydewig Paul Molac, wedi gosod system drochi ieithyddol ynghanol y system addysg gyhoeddus, esbonia’r bardd a’r hanner-Llydäwr, Aneirin Karadog.
Wrth gymharu’r cynnig i Ddeddf Iaith 1993, dywedodd Aneirin wrth golwg360 y byddai’r ddeddf hon wedi cael yr un effaith gan “ddyrchafu’r Llydaweg i’r un statws â Ffrangeg yn y sedd gyhoeddus”.
Fodd bynnag, mae Cyngor Cyfansoddiadol Ffrainc wedi dyfarnu bod y cynllun arfaethedig yn “anghyfansoddiadol” – a hynny am mai iaith gweriniaeth Ffrainc yw’r Ffrangeg.
A dywed y bardd wrth golwg360 nad yw hynny’n syndod iddo.
“Dicter mawr”
“Do’n i ddim yn synnu i weld bod y panel cyfansoddiadol anetholedig yma… Jacobinaidd – os gawn ni ddefnyddio’r term yna – ym Mharis wedi penderfynu fod deddf Paul Molac yn anghyfansoddiadol,” meddai Aneirin Karadog.
“Ond wedyn maen nhw wedi mynd gam ymhellach, a dweud, i bob pwrpas, fod addysg trochi, a’r system rydyn ni wedi bod yn eu defnyddio yng Nghymru ers y Mudiad y Meithrin, y dull o drochi ieithyddol, fod hwnnw’n anghyfreithlon. Sy’n dipyn o beth i rywun sy’n siarad Llydaweg orfod ei wynebu.
“Felly mae yna ddicter mawr yn Llydaw ar y foment, ac mae e ond wedi codi’r tensiynau, a gwneud y Llydäwyr yn fwy penderfynol.
“Â dweud y gwir, falle bod e’n beth da yn yr hirdymor o ran ei fod e’n gallu siglo pobol i sylweddoli’r hyn sy’n mynd ymlaen, a’r driniaeth mae ieithoedd lleiafrifol yn Ffrainc yn ei chael.
“Roedd y gorymdeithio yn teimlo’n fwy crac, a swnllyd, a niferus,” dywedodd Aneirin Karadog wrth gyfeirio at brotestiadau a ddigwyddodd yn Llydaw dros y penwythnos.
Now that's a demonstration ✊! The French state refuses to sign any new policies for our minority language… So Bretons being Bretons were out in thousands today to demand that they reassess their undemocratic decision! Trugarez da @Diwan da reiñ tu din manifestiñ eus a-bell! pic.twitter.com/TH7rRSfF7y
— Talwyn (@talbzh) March 13, 2021
“Y trwbl wrth gwrs yn Ffrainc yw bod cymaint o bobol wedi cael eu Ffrangegeiddio, neu eu Pariseiddio, yn teimlo eu bod nhw’n Ffrancod ar draul popeth arall.
“Mae hynny wedi gwreiddio’n ddwfn ym mhoblogaeth y wlad ers yr Ail Ryfel Byd wrth iddyn nhw ailsefydlu’r wladwriaeth Ffrengig.”
“Problem greiddiol”
“Ond mae e’n siomedig fod hyn yn dod gan rywun fel Macron, oedd yn cynnig mwy o obaith am ddulliau gwahanol o weithredu, ac mae’r tactegau mae Jean-Michel Blanquer, ei Weinidog Addysg, ac eraill wedi’u defnyddio yn dan-dîn o ran eu bod nhw wedi gwrthwynebu’r ddeddf gydag enwau pobol oedd wedi pleidleisio dros y ddeddf, er enghraifft” meddai Aneirin Karadog.
“A’u bod nhw wedi rhoi’r apêl yma mewn funud olaf, heb roi cyfle i aelodau plaid eu hunain ymgynghori ar y peth.
“Mae e’n dangos fod yna broblem yn greiddiol, reit ynghanol y wladwriaeth Ffrengig, lle mae ieithoedd lleiafrifol yn y cwestiwn.
“Mae’n anodd gwybod beth i’w wneud, ond mae’n rhaid peidio rhoi lan. Er mor ddigalon yw’r sefyllfa.”
Roedd y ddeddf hon yn effeithio ieithoedd lleiafrifol eraill megis Basgeg, yr iaith Gorsicaidd, a chwaer-ieithoedd i’r Ffrangeg, fel Normaneg a’r Galaweg.
“Awydd democrataidd”
“Fyddai e wedi creu’r un effaith â Deddf Iaith 1993 lle’r oedd rhaid i bob corff cyhoeddus ddefnyddio’r Gymraeg – roedd hyn yn rhywbeth tebyg. Roedd y Llydaweg yn cael ei dyrchafu i’r un statws â’r Ffrangeg yn y sedd gyhoeddus gyda’r ddeddf yma,” eglurodd.
“Bydde fe wedi bod yn beth anhygoel, ond dyna ni.
“Ond os ydyn ni’n ystyried y niferoedd wnaeth bleidleisio yn yr Assemblée Nationale de France ym Mharis o blaid deddf Paul Molac, roedd y mandad yn hollol glir,” ychwanegodd, gan gyfeirio at y ffaith fod y ddeddf wedi ei phasio o 247 pleidlais i 76 gan Senedd Ffrainc.
“Roedd y mwyafrif yn helaeth, oedd yn syndod yn ei hunan. Felly, mae’n amlwg fod yna awydd democrataidd am hyn.
“Yn yr un modd â rydyn ni’n gweld dadlau rhwng Boris Johnson a Nicola Sturgeon, pa mor hir mae modd gwadu hawliau democrataidd pobol cyn i bethau droi’n flêr yn gyfansoddiadol yn y pen draw?”