Mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi wynebu pwysau newydd i ryddhau’r adroddiad ar lofruddiaeth Daniel Morgan, a hynny ar fyrder.

Clywodd ASau fod teulu Mr Morgan yn credu bod yr oedi cyn cyhoeddi “wedi ychwanegu at ein poen” – a’u bod am i Ms Patel ailystyried y mater cyn gynted â phosib.

Mae Ms Patel wedi mynnu ei bod yn “gywir” ei bod yn darllen yr adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi, er i’r Tŷ Cyffredin gael gwybod nad yw hithau wedi’i dderbyn eto.

Cafodd Mr Morgan, ditectif preifat, ei ladd gyda bwyell ym maes parcio tafarn Golden Lion yn Sydenham, de-ddwyrain Llundain, ar Fawrth 10 1987.

Er gwaethaf pum ymchwiliad gan yr heddlu, yn ogystal â chwest, nid oes neb wedi’i ddwyn i gyfiawnder dros y farwolaeth, gyda’r Heddlu Metropolitan yn cyfaddef bod llygredd wedi llesteirio’r ymchwiliad gwreiddiol.

“Cywilyddio pob un ohonom”

Dywedodd AS Rhondda, Chris Bryant, a sicrhaodd gwestiwn brys ar yr achos, wrth Dŷ’r Cyffredin: “Cafodd Daniel ei ladd â bwyell mewn maes parcio ar Fawrth 10, 1987, 34 mlynedd yn ôl, a diolch i lygredd yn yr heddlu ac ymyrraeth gan News UK, nid yw’r teulu wedi cael unrhyw gyfiawnder.

“Mae hynny’n cywilyddio pob un ohonom.”

Cyhuddodd Mr Bryant yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel o rwystro cyhoeddi’r adroddiad ac ychwanegodd: “Dywedodd brawd Daniel – Alastair – wrthyf fod ‘hyn ond wedi ychwanegu at ein poen’ ac mae’n annog yr Ysgrifennydd Cartref i ailystyried ei safbwynt, a hynny’n gyflym, i roi terfyn ar y sefyllfa ddiangen hon.

“Felly a fydd y gweinidog yn cytuno ar ddyddiad gyda’r panel annibynnol a theulu Daniel heddiw i’w gyhoeddi’r wythnos hon?

“Ac a wnaiff hi ymrwymo i gyhoeddi’r adroddiad yn llawn heb unrhyw ddileu, diwygio na golygu, oherwydd mae pobl yn poeni nad yw hi’n mynd i wneud hynny.”

Plaid y ‘cover up’?

Gofynnodd Mr Bryant am fanylion unrhyw ohebiaeth ffurfiol neu anffurfiol ar yr achos rhwng Ms Patel a’i swyddogion gyda chynrychiolwyr News UK, gan ychwanegu: “A wnaiff hi gyhoeddi cofnodion ei chyfarfodydd hi a’i hadran gyda chynrychiolwyr News UK dros y 12 mis diwethaf?

“Os na, oni fydd pobl yn dod i’r casgliad bod ‘cover up’ yn dal i fynd rhagddo ac nad dyma blaid y gyfraith a threfn, ond plaid y ‘cover up’?”

Dywedodd gweinidog y Swyddfa Gartref, Victoria Atkins, nad yw’r adran wedi derbyn yr adroddiad eto a dywedodd: “Ni ellir rhwystro cyhoeddi adroddiad os nad ydym wedi’i dderbyn eto.

“Dyw’r Swyddfa Gartref ddim wedi derbyn yr adroddiad.”

“Rhowch yr adroddiad i ni ac yna gallwn ei gyhoeddi.”

Aeth ymlaen: “O ran cynnwys yr adroddiad hwnnw, siaradais yn gynharach y prynhawn yma â’r Ysgrifennydd Cartref am y mater hwn ac mae dymuniad gwirioneddol iawn ar bob ochr i weld yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi i gael atebion i’r teulu.”

Gofynnwyd dro ar ôl tro i Ms Atkins amlinellu amserlen ar gyfer cyhoeddi.

Atebodd hithau: “Ni allaf ymrwymo i ddyddiad cyhoeddi os nad yw’r Swyddfa Gartref wedi derbyn yr adroddiad eto.

“Rhowch yr adroddiad i ni ac yna gallwn ei gyhoeddi.”

Dywedodd y gweinidog hefyd: “Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref ddyletswydd o dan adran chwech o’r Ddeddf Hawliau Dynol mewn perthynas â bygythiadau i fywyd – ond dyna’r unig ystyriaeth fydd yn ei meddwl, hynny a diogelwch gwladol.

“Nid oes gennym ddiddordeb mewn golygu’r adroddiad hwn, dim o gwbl, rydym am i’r gwirionedd ddod allan.”