Flwyddyn union ers marwolaeth George Floyd dan law plismon ym Minneapolis yn yr Unol Daleithiau, mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn y Senedd, yn dweud mai’r “amser i daclo hiliaeth yw nawr”.

Cafwyd Chauvin, sy’n 45 oed, yn euog fis diwethaf o lofruddiaeth anfwriadol o’r ail radd, llofruddiaeth o’r drydedd radd, a dynladdiad o’r ail radd.

Fe wnaeth e bwyso ei ben-glin ar wddf George Floyd am naw munud a 29 eiliad wrth iddo fethu anadlu, a stopio symud.

Flwyddyn ar ôl ei lofruddiaeth sydd wedi ennyn cryn ymateb o amgylch y byd, mae Jane Hutt wedi ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru wirioneddol wrth-hiliol.

“Rydym yn galaru ei farwolaeth a marwolaeth pawb sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau oherwydd hiliaeth.

“Rydym yn sefyll mewn undod â phawb sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb ac am roi terfyn ar hiliaeth sefydliadol. Rwyf am ei gwneud yn glir y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn brwydro dros gymdeithas fwy cyfartal a chyfiawn.

“Nid oes lle i hiliaeth a phob math o gasineb a rhagfarn yn ein cymdeithas.”

Nodau allweddol

Gan dynnu sylw at bwysigrwydd y dyddiad hwn a phwysigrwydd gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â hiliaeth, mae Jane Hutt wedi amlinellu nodau allweddol Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru.

“Nid yw mynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb yn ymwneud â geiriau’n unig, mae’n ymwneud â’n gweithredoedd. Dim ond drwy wrando a gweithredu y gallwn sicrhau newid gwirioneddol.

“Dyna pam rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft at ddibenion ymgynghori ar 24 Mawrth.

“Bydd y Cynllun, a ddatblygwyd ar y cyd, yn ein helpu i greu’r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydym i gyd am ei gweld.

“Bwriedir iddo fod yn Gynllun ymarferol, sy’n amlinellu camau penodol i’w cymryd ar draws yr holl feysydd polisi allweddol a ddeilliodd o’n gwaith datblygu ar y cyd.

“Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo iddo ac yn atebol amdano.

“Mae bod yn wrth-hiliol yn gofyn i ni i gyd wneud ymdrech ymwybodol a gweithgar i herio hiliaeth lle bynnag y gwelwn ni hynny.

“Mae cymaint i’w wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb systemig hirdymor a hiliaeth. Dyna pam rydym am i bob rhan o gymdeithas Cymru ymgysylltu â’r ymgynghoriad a’n helpu i’w gyflawni.

“Mae’n amser am newid. Yr amser i daclo hiliaeth yw nawr.”

Llofruddiaeth George Floyd: cyfreithiwr Derek Chauvin yn gwneud cais am achos llys newydd

Cafwyd y cyn-blismon 45 oed yn euog fis diwethaf o lofruddiaeth anfwriadol o’r ail radd, llofruddiaeth o’r drydedd radd a dynladdiad o’r ail radd