Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i osod sancsiynau ar Felarws, wedi i awyren gael ei harallgyfeirio er mwyn arestio un o wrthwynebwyr yr Arlywydd.
Roedd Raman Pratasevich ar awyren Ryanair oedd yn teithio o Athen yng Ngwlad Groeg i Lithwania pan fu’n rhaid arallgyfeirio i Minsk yn dilyn adroddiadau bod bom ar yr awyren.
Mae’r sancsiynau’n cynnwys atal cwmnïau awyrennau Belarws rhag defnyddio a hedfan uwchben meysydd awyr yr Undeb Ewropeaidd, ac maen nhw hefyd yn galw am ryddhau’r newyddiadurwr ar unwaith.
Fe wnaeth arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd annog cwmnïau awyrennau’r Undeb Ewropeaidd i beidio â hedfan uwchben Belarws, ac annog y Mudiad Awyrennu Sifil Rhyngwladol i gynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.
Mae rhai yn dweud bod y digwyddiad yn gyfystyr â therfysgaeth, neu awyrladrad gan y wladwriaeth.
Yn ogystal â rhyddhau Raman Pratesevich, mae’r arweinwyr yn galw ar awdurdodau Minsk i ryddhau ei gariad, Sofia Sapega, a gafodd ei chymryd oddi ar yr awyren hefyd.
Dywed Ryanair fod rheolwyr hedfan Belarws wedi dweud wrth y criw fod yna fom yn bygwth yr awyren fel yr oedden nhw’n hedfan dros Felarws ddydd Sul (Mai 23), gan ddweud wrthyn nhw am ei glanio.
“Ymosodiad ar ddemocratiaeth”
Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn benderfynol eu condemniad tuag at yr arestiad, a’r cyfarwyddyd i arallgyfeirio’r awyren.
Fe wnaeth yr arweinwyr alw ar lysgennad Belarws i “gondemnio’r cam annerbyniol hwn gan awdurdodau Belarws” gan ddweud bod y penderfyniad i’w arestio’n “ymdrech amlwg arall i dawelu holl leisiau gwrthwynebus y wlad”.
Dywed Ursula von der Leyen fod hyn “yn ymosodiad ar ddemocratiaeth”, “ar ryddid mynegiant”, ac ar “sofraniaeth Ewropeaidd”.
“Mae angen ateb cryf i’r ymddygiad gwarthus hwn,” meddai.
‘Cadw at reolau’
Mae Gweinidog Tramor Belarws yn galw sylwadau’r Undeb Ewropeaidd yn “gwerylgar”, gan fynnu bod Minsk “wedi cadw at reolau rhyngwladol yn llawn”.
Dywed swyddfa’r wasg Arlywydd Belarws, Alexander Lukashenko, ei fod e wedi rhoi cyfarwyddyd i awyren ryfel deithio gyda’r awyren Ryanair ar ôl clywed bod bom yn ei bygwth.
Yn ôl dirprwy gapten yr awyrlu, fe wnaeth criw Ryanair benderfynu glanio ym Minsk, ac ychwanegodd fod yr awyren ryfel yno i “sicrhau eu bod nhw’n glanio’n sâff”.
Ond dywed Ryanair fod rheolwyr traffig awyrennau Belarws wedi rhoi cyfarwyddyd i’r awyren arallgyfeirio i brifddinas Belarws, lle cafodd yr awyren ei harchwilio ond ni chafwyd hyd i fom.
Mae prif weithredwr Ryanair yn disgrifio’r digwyddiad fel “achos o herwgipio gwladwriaethol… awyrladrad gwladwriaethol”.