Mae dynes 46 oed wedi cael ei chyhuddo o lofruddio dyn 31 oed yng Nghei Connah.

Daw hyn yn dilyn digwyddiad yn y dref ddydd Sadwrn (Mai 22).

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Mae Emma Berry bellach yn y ddalfa wedi’i chyhuddo o lofruddio Dean Michael Bennett, a gafodd ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Lerpwl lle bu farw.

Mae Emma Berry wedi’i chadw yn y ddalfa ac mi fydd hi’n mynd gerbron ynadon yn Llandudno heddiw (dydd Mawrth, Mai 25).

Mae dyn 35 oed a merch 16 oed a gafodd eu harestio yn dilyn y digwyddiad bellach wedi cael eu rhyddhau’n ddigyhuddiad.

Logo'r heddlu yn erbyn cefndir du

Enwi dyn fu farw yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghei Connah

Dean Michael Bennett, dyn 31 oed o’r ardal, wedi’i drywanu