Mae nifer o becynnau gwynnu dannedd sydd ar werth ar-lein yn cynnwys lefel anghyfreithlon o hydrogen perocsid, sy’n gallu llosgi’r deintgig a difrodi dannedd.

Fe wnaeth ymchwiliad gan Which? ddarganfod fod mwy na’r lefel gyfreithlon o’r cemegyn mewn 21 o’r 36 pecyn y gwnaethon nhw eu profi.

Daeth i’r amlwg fod lefel yr hydrogen perocsid 300 gwaith yn uwch na’r lefel gyfreithlon yn un o’r cynhyrchion.

Fe wnaeth Which? ddweud eu bod nhw’n pryderu y gallai’r cyfryngau cymdeithasol annog pobol i ddefnyddio cynnyrch gyda lefelau peryglus o’r cemegyn ynddyn nhw.

“Mae’n destun pryder fod ein profion wedi datgelu fod cymaint o’r cynhyrchion hyn sy’n cael eu gwerthu ar farchnadoedd ar-lein – ac yn cael eu hybu ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml – yn torri rheolau cyfreithiol ar gyfer hydrogen perocsid ac yn peryglu iechyd defnyddwyr,” meddai Sue Davies, Pennaeth Polisi Amddiffyn Cwsmeriaid Which?

“Mae’n amlwg nad yw hunanreoleiddio’n gweithio, gan adael i bobol allu prynu llwyth o gynhyrchion peryglus ar-lein.”

Ymchwil

Gall gwynwyr dannedd sy’n cael eu defnyddio gartref gynnwys hyd at 0.1% o hydrogen perocsid, a’r uchafswm sy’n gallu cael ei ddefnyddio gan ddeintyddion yw 6%.

Dangosodd yr ymchwil fod un gel gwynnu yn cynnwys 30.7% o’r cemegyn, ac mae’r cynnyrch gan Oral Orthodontic Materials wedi cael ei atal rhag cael ei werthu gan y siop ar-lein, AliExpress.

“Mae hydrogen perocsid yn gemegyn cryf difrifol, ac ni ddylid chwarae o gwmpas gydag e,” meddai Dr Paul Woodhouse o’r Sefydliad Deintyddol Prydeinig.

“Mae deintyddion wedi cael eu hyfforddi i’w ddefnyddio, ac maen nhw’n gwybod pa gynnyrch gwynnu sy’n effeithiol i’w defnyddio ac yn ddiogel i ddannedd a deintgig.

“Os ydych chi’n dinistrio meinwe eich deintgig, ni ddaw yn ôl a byddwch chi’n colli eich dannedd. Os ydi e’n treiddio wyneb y dant, sy’n debygol o ddigwydd, mae’n debyg y bydd e’n arwain at ladd y dant hwnnw.”