Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain yn galw ar bobol o gymunedau lle mae amrywiolyn India Covid-19 ar ei anterth i ystyried a yw’n “hanfodol” teithio, gan ddweud bod cyflwyno cyngor ychwanegol yn “synhwyrol”.
Daw sylwadau Therese Coffey, Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, wrth iddi ymateb i gwestiwn am deuluoedd yng ngogledd Lloegr yn teithio i wledydd “rhestr werdd” ar y rhaglen Good Morning Britain ar ITV.
“Dw i ddim am roi cyngor teithio unigol ar rai sefyllfaoedd damcaniaethol i bobol mewn gwahanol rannau o’r wlad,” meddai.
“Mae’r cyngor yn glir iawn fod angen i bobol ystyried a yw’n wirioneddol hanfodol.”
Mae pobol mewn trefi a dinasoedd fel Bolton, Caerlŷr a Kirkless ac ardaloedd fel Hounslow yn Llundain wedi cael eu cynghori i beidio â chyfarfod â phobol dan do na theithio allan o’r ardal leol.
“Y pwynt yw fod hyn yn golygu canolbwyntio ar y cymunedau hynny lle mae adnoddau ychwanegol wedi mynd i geisio’u helpu nhw i herio hyn, a dyna pam ei fod yn ddull sydd wedi’i dargedu mwy ar yr ardaloedd hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf,” meddai ar raglen Today ar Radio 4.
“Mae hyn yn golygu bod ag elfen synhwyrol, a chydnabod ei bod yn haws trosglwyddo’r feirws yma pan fo pobol dan do.
“Mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar awyru a chyfyngu’n hunain fel unigolion lle mae perygl o drosglwyddo’r feirws neu gael ein heintio.
“Felly mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd yr holl gamau lleol cyfrifol ac rydym yn gwybod fod hyn yn arbennig o wir mewn rhai cymunedau o amgylch y wlad ar hyn o bryd.”