Mae Alun Davies, Aelod Llafur o’r Senedd, wedi cyhuddo Ysgrifennydd Cymru o gamarwain wrth drydar am fuddsoddiad i ddatblygu technoleg werdd, ac mae’n galw arno i ddweud y gwir.

Daw ei ymateb yn dilyn trydariad gan Simon Hart sy’n cyfeirio at £166m sydd wedi cael ei fuddsoddi er mwyn datblygu’r dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer “chwyldro diwydiannol gwyrdd” ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r sefyllfa’n cyfeirio at y Deyrnas Unedig i gyd, ac nid yn benodol at Gymru.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i gyflwyno cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer swyddi yng Nghymru,” meddai Ysgrifennydd Cymru.

“Lai nag un wythnos wedyn, rydyn ni wedi cyhoeddi buddsoddiad o £166m ar gyfer technoleg werdd, gan greu 60,000 o swyddi.

“Newyddion gwych i gymunedau Cymreig fel Pwllperian a Glascoed a’u prosiectau llwyddiannus.”

“Amser dweud y gwir”

Yn ôl Alun Davies, sy’n Aelod o’r Senedd dros Flaenau Gwent, mae’r trydariad gan Simon Hart yn un “camarweiniol arall”.

“Mae’r £166m a’r 60k swydd ledled y Deyrnas Unedig,” meddai mewn trydariad.

“Mae’n amser chwalu’r rhifau hyn ac i ddweud y gwir.”

Y buddsoddiad

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd y buddsoddiad yn creu 60,000 o swyddi ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Bydd yn “helpu i roi’r Deyrnas Unedig ar y blaen pan mae hi’n dod at dechnolegau gwyrdd y dyfodol”, ac yn cefnogi diwydiannau Prydeinig i gwtogi costau, parhau’n gystadleuol, ac amddiffyn swyddi wrth iddyn nhw wella effeithlonrwydd a symud tuag at economi werdd.

Mae’n fwriad i’r buddsoddiad helpu’r Deyrnas Unedig i gyrraedd eu hymrwymiadau tuag at yr hinsawdd, gan gynnwys cyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2050, a sicrhau bod allyriadau’r Deyrnas Unedig 78% yn is yn 2035 o gymharu â lefelau 1990.

Fel rhan o’r £166m, bydd bron i £4.5m yn mynd i Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig er mwyn cynnal ac adfer mawndiroedd ar ffermdir ger Doncaster, yn Ne’r Penwynion, ac ym Mhwllpeiran.

Bydd cwmni Celsa Manufacturing yng Nghaerdydd yn derbyn £3m er mwyn gosod technoleg newydd i leihau allyriadau a gwella effeithlonrwydd ynni wrth doddi metel a chynhyrchu dur.

Mae £82,000 wedi’i roi i gwmni BAE Systems yng Nglascoed, Sir Fynwy er mwyn gosod technoleg werdd i gynhesu safle’r cwmni.

Mae’r prosiect yn anelu at gwtogi’r ynni mae’r cwmni’n ei ddefnyddio, a gostwng eu hôl troed carbon 25%, gan arbed gwerth allyriadau blynyddol 700 o dai.