Mae gan bobol yng Nghymru lai o sefydlogrwydd ariannol nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r ymchwil gan RationalFX yn dangos bod llai na thraean o bobol Cymru’n dweud eu bod nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ariannol.
Awgryma’r ystadegau hefyd fod lefel sefydlogrwydd ariannol pobol yng Nghymru wedi gostwng ers dechrau’r pandemig.
Fe wnaeth yr ymchwil ddatgelu mai yng Nghymru y mae’r ganran isaf o’r boblogaeth yn teimlo’n gyfforddus yn ariannol.
Yr ystadegau
31% o bobol a ddisgrifiodd eu hunain fel “cyfforddus iawn yn ariannol” neu “gweddol gyfforddus yn ariannol”, sy’n sylweddol is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (49%).
Mae dadansoddiad o’r ystadegau ar gyfer Mai 2021 yn dangos fod nifer y bobol sy’n dweud eu bod nhw’n teimlo’n gyfforddus wedi disgyn o 8 pwynt ers dechrau’r pandemig fis Mawrth y llynedd, pan oedd y ganran ar 39%.
Mewn cymhariaeth, mae canran y bobol sy’n teimlo’n gyfforddus yn ariannol ar draws gweddill y Deyrnas Unedig wedi cynyddu o 42% ar ddechrau’r pandemig i 49% erbyn y mis yma.
Yn ogystal, mae’r data diweddaraf yn dangos bod 16% o bobol yng Nghymru yn methu â chael dau ben llinyn ynghyd, neu’n gorfod gwneud heb nwyddau hanfodol.
Mae’r ganran yma’n uwch na’r ganran ar gyfer cyfartaledd y Deyrnas Unedig hefyd, lle mae 12% yn methu â rhoi dau ben llinyn ynghyd.
Ac eithrio Llundain, de Lloegr oedd yr ardal fwyaf cyfforddus yn ariannol, o flaen gogledd Lloegr, yr Alban a chanolbarth Lloegr.
Dros y Deyrnas Unedig, pobol dros 65 oed oedd fwyaf cyfforddus yn ariannol, a’r rhai lleiaf cyfforddus oedd y grŵp oedran 25-40 oed.
Cafodd yr ymchwil ei chynnal gan yr arbenigwyr ariannol RationalFX, a chafodd yr ystadegau eu casglu gan YouGov.