Mae Boris Johnson a’r Arglwydd Goldsmith ymhlith Ceidwadwyr blaenllaw sy’n cael eu beirniadu mewn adroddiad am Islamoffobia o fewn y blaid.

Cafodd yr adroddiad ei lunio gan yr Athro Swaran Singh, ac mae’n mynd i’r afael â gwahaniaethu o fewn y blaid.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at sylwadau prif weinidog Prydain yn y gorffennol yn cymharu Mwslimiaid â “blychau post” oherwydd eu bod nhw’n gwisgo’r burka, yn ogystal â honiadau gan Zac Goldsmith yn ystod y ras i fod yn Faer Llundain fod Sadiq Khan yn ymwneud ag eithafwyr Islamaidd.

Mae aelod seneddol arall, Bob Blackman, dan y lach am ymwneud â siaradwr Hindwaidd gwrth-Islamaidd.

Yn ôl yr adroddiad, mae sylwadau Boris Johnson yn rhoi’r argraff fod y Torïaid yn “ansensitif i gymunedau Mwslimaidd”.

Mae’r adroddiad wedi dod o hyd i deimladau gwrth-Islamaidd ar bob lefel, ond maen nhw’n dweud nad yw’r blaid, wrth fynd i’r afael â chwynion, yn euog o hiliaeth sefydliadol.

Boris Johnson

Cafwyd Boris Johnson yn ddieuog gan banel annibynnol oedd yn ymchwilio i honiadau ei fod e wedi torri cod ymddygiad y blaid drwy fanteisio ar ei golofn yn y Daily Telegraph yn 2018 i wneud sylwadau sarhaus am Fwslimiaid.

Dywedodd bryd hynny fod menywod sy’n gwisgo’r burka yn edrych fel “blychau post” a “lladron banc”.

Ond roedd barn y panel wedi’i hollti, gyda rhai yn teimlo bod ei ieithwedd yn “sarhaus” ac nad oedd yn “arwain drwy esiampl”.

Fe wnaeth e amddiffyn ei sylwadau drwy ddweud bod angen “rhyddid barn” mewn newyddiaduraeth, ond fe wnaeth e gydnabod na fyddai’n defnyddio’r ieithwedd yn ei swydd yn brif weinidog.

Daeth nifer o bobol a gafodd eu holi ar gyfer yr ymchwiliad i’r casgliad fod ei sylwadau’n “annerbyniol”, ac mae’r adroddiad yn wfftio’i amddiffyniad na fyddai’n defnyddio’r ieithwedd fel prif weinidog gan ddweud y dylid disgwyl “iaith briodol drwyddi draw yn y Blaid Geidwadol”.

Mae’r adroddiad yn galw am dryloywder wrth ymdrin â chwynion.

Yr Arglwydd Goldsmith

Aeth yr ymchwiliad i’r afael ag ymgyrch aflwyddiannus Zac Goldsmith – yr Arglwydd Goldsmith erbyn hyn – i ddod yn Faer Llundain yn erbyn Sadiq Khan yn 2016.

Dywedodd fod angen “dwyn Sadiq Khan i gyfri am ymwneud ag eithafwyr, yn enwedig Islamyddion”.

Ond dywedodd nad oedd e o’r farn fod Sadiq Khan yntau’n eithafwr.

Mae’n cydnabod bellach fod yr ymgyrch wedi troi’n ffyrnig “ar sail hil” a bod y mater “yn rhy danllyd i’w drafod yn rhesymol”.

Mae’n dweud bod yr ymdeimlad ei fod e wedi sarhau Mwslimiaid “yn destun difaru mawr a thristwch” iddo fe.

Cafodd cŵyn yn ei erbyn ar y pryd ei wrthod fel un “heb sail iddi”.

Bob Blackman

Fe fu Bob Blackman, Aelod Seneddol Harrow, dan y lach yn y gorffennol am wahodd Tapan Ghosh, siaradwr Hindwaidd cenedlaetholgar, i ddigwyddiad.

Mae Ghosh wedi gwneud sylwadau gwrth-Islamaidd yn India yn y gorffennol, ond mae Blackman wedi disgrifio’i berthynas â fe fel un lle mae Ghosh yn “noddwr hyd braich” ar gyfer digwyddiadau Fforwm Hindwaidd Prydain a Chyngor Cenedlaethol Temlau Hindwaidd.

Doedd e ddim yn rhan o’r penderfyniad i wahodd Ghosh i ddigwyddiad, meddai, a doedd e ddim yno pan wnaeth e annerch digwyddiad yn San Steffan.

Dywed Blackman ei fod e’n “gandryll” â Chyngor Cenedlaethol Temlau Hindwaidd, mae e wedi beirniadau sylwadau cyhoeddus Ghosh ac mae’n dweud ei fod e bellach yn craffu ar siaradwyr yn ofalus.

Daeth Bob Blackman i’r amlwg yn 2016 ar ôl aildrydar sylwadau Tommy Robinson mewn erthygl yn un o bapurau newydd India am drais gan Fwslimiaid yn erbyn Hindwiaid, ond fe ddywedodd ei fod e’n newydd i Twitter ar y pryd ac nad oedd e wedi sylweddoli o ble’r oedd y stori wedi dod.

Dywed fod yr holl honiadau yn yr adroddiad wedi cael sylw gan y Blaid Geidwadol ac wedi cael eu gwrthod.

Casgliadau

Cafodd yr ymchwiliad gan yr Athro Singh, cyn-gomisiynydd gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ei sefydlu yn dilyn cyfres o honiadau o Islamoffobia o fewn y blaid, ac fe aeth i’r afael â gwahaniaethu o wahanol fathau.

Roedd 1,418 o gwynion rhwng 2015 a 2020 a’r rheiny’n ymwneud â 727 o achosion o wahaniaethu honedig – cyfartaledd o 237 o gwynion am 122 o ddigwyddiadau bob blwyddyn o fewn plaid sydd â 200,000 o aelodau.

Roedd 496 o’r achosion yn ymwneud ag Islam a 74% o’r rheiny ar y cyfryngau cymdeithasol.

Arweiniodd 231 ohonyn nhw at sancsiynau, gyda 50% yn arwain at waharddiad dros dro a 29% at waharddiad parhaol.

Doedd dim camau mewn 418 o achosion am amryw o resymau.

Doedd dim tystiolaeth, meddai’r adroddiad, fod y cwynion wedi cael eu trin yn wahanol i gwynion am resymau eraill, a doedd dim tystiolaeth o geisio ymyrryd mewn cwynion.

Ond mae’r Athro Singh wedi beirniadu’r broses o ymdrin â chwynion am fod yn “rhy araf a ddim yn ddigon tryloyw”.

Mae’r Farwnes Warsi, cyn-gadeirydd y blaid, wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o “hiliaeth sefydliadol” ac mae hi wedi cyflwyno 30 o ffeiliau i’r ymchwiliad.