Mae Covid-19 wedi’i grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 153,093 o bobol yn y Deyrnas Unedig ers dechrau’r pandemig, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Bu farw’r nifer uchaf o bobol, 1,477, mewn un diwrnod ar Ionawr 19 ac yn ystod y don gyntaf, y diwrnod gwaethaf oedd Ebrill 18, pan fu farw 1,461 o bobol.
Cafodd tua 30 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos yn gorffen ar Fai 14, dwywaith nifer yr wythnos flaenorol.
Ond dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y niferoedd ar gyfer yr wythnos flaenorol wedi cael eu heffeithio gan fod swyddfeydd cofrestru ar gau yn ystod Gŵyl y Banc.
Ers dechrau’r pandemig, mae 42,461 o breswylwyr cartrefi gofal wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru a Lloegr, ac mae’r ystadegau yn cyfeirio at bobol fu farw ym mhob lleoliad.
Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 151 o bobol yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos yn gorffen ar Fai 14, sy’n gynnydd o 17% ers yr wythnos flaenorol.
Roedd ystadegau’r wythnos flaenorol, yn gorffen ar Fai 7, yn is oherwydd Gŵyl y Banc, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd tystysgrifau marwolaeth un ymhob 66 o bobol yn cyfeirio at Covid-19 yng Nghymru a Lloegr yn ystod yr wythnos yn gorffen ar Fai 14.