Mae Rob Roberts, Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn, yn wynebu gwaharddiad o chwe wythnos am dorri polisi camymddwyn rhywiol y blaid.
Daeth panel i’r casgliad ei fod e wedi mynd at ddyn mewn modd rhywiol nad oedd e’n ei groesawu.
Dim ond os yw aelodau seneddol yn cytuno y gall gwaharddiad gael ei gyflwyno.
Yn ôl Syr Stephen Irwin, cadeirydd y panel, mae Rob Roberts yn euog o gamymddwyn “sylweddol”, a’i fod e wedi manteisio ar ei rym dros y sawl sydd wedi cwyno.
Dywed fod gwaharddiad o chwe wythnos “yn briodol ac yn gymesur”.
Dim is-etholiad
Er gwaetha’r gwaharddiad posib, mae’n debyg na fydd Rob Roberts yn gorfod wynebu is-etholiad gan fod y gosb wedi’i rhoi gan banel annibynnol ac nid gan bwyllgor seneddol.
Mae Anneliese Dodds, cadeirydd y Blaid Lafur, yn dweud y dylai gamu o’r neilltu ond y bydd ei phlaid yn cefnogi deddfwriaeth frys i newid y gyfraith er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa hon.
Dywed fod diffyg is-etholiad yn awtomatig o dan yr amgylchiadau’n “abswrd ac anghyfiawn”.
Colli’r chwip
Mae lle i gredu bod Rob Roberts wedi colli chwip y blaid yn dilyn adroddiad y panel annibynnol.
Mae Downing Street yn dweud bod Jacob Rees-Mogg, arweinydd Tŷ’r Cyffredin yn benderfynol o gyflwyno cynnig ar y mater.
Bydd Llywodraeth Prydain yn rhoi diweddariad “maes o law”, yn ôl llefarydd ar ran y prif weinidog Boris Johnson.
Mynnu y bydd yn parhau’n aelod seneddol
Yn y cyfamser, er bod Rob Roberts yn cyfaddef iddo “dorri ymddiriedaeth” yn sgil ei ymddygiad, mae’n mynnu y bydd yn parhau’n aelod seneddol.
Dywedodd mewn datganiad ei fod e “mewn lle heriol yn bersonol” ar ddechrau 2020, a’i fod e wedi gwahodd aelod o staff am bryd o fwyd yn y gobaith o ddechrau perthynas, ond ei fod e bellach yn cydnabod “na ddylai hynny fod wedi digwydd”.
Mae e wedi ymddiheuro wrth yr aelod o staff, i’w deulu ei hun, ei gydweithwyr a’i etholwyr.
Mae’n dweud mai cael cynrychioli etholaeth Delyn yw “anrhydedd fwyaf” ei fywyd, ac y bydd yn “gweithio’n ddiflino i adfer unrhyw ffydd a gollwyd yn sgil y dyfarniad hwn”.