Mae’r cyfreithiwr a wnaeth gynrychioli’r llofrudd Peter Moore yn dweud bod rhaid i fyd y gyfraith, a phroffesiynau eraill, fod yn fwy ystyriol o’r effaith mae achosion anodd yn ei chael ar weithwyr.
Cafodd y profiad o gynrychioli “dyn peryclaf Cymru” yn 1996 effaith niweidiol iawn ar iechyd meddwl Dylan Rhys Jones, ac mae’n dweud nad oedd yna ddigon o gefnogaeth ar y pryd.
Yn ôl Dylan Rhys Jones, does dim digon o ymdrin â phroblemau sy’n codi pan fo pobol broffesiynol yn gorfod ymwneud ag adegau anoddaf bywydau pobol.
Cafwyd Peter Moore yn euog o lofruddio Anthony Davies, Keith Randles, Edward Carthy a Henry Roberts yn y gogledd yn 1995, a threuliodd y twrnai ifanc bron i flwyddyn yn gweithio ar yr achos, ac yn “ail-fyw’r holl drais”.
Cafodd y llofrudd ei ddedfrydu i oes o garchar ac mae’n parhau dan glo, ond taflodd yr achos gysgod ar fywyd Dylan Rhys Jones am flynyddoedd lawer.
Dyn Mewn Du
Mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C, Dyn Mewn Du, bydd y cyfreithiwr o Abergele yn rhannu ei stori bersonol o gynrychioli’r llofrudd gwaethaf welodd Cymru erioed.
Yn ôl Dylan Rhys Jones, y prif gymhelliad i fynd ati i greu rhaglen oedd ysgrifennu’r llyfr The Man in Black, a gafodd ei chyhoeddi y llynedd.
“Dw i’n meddwl ei fod o’n deg dweud ei bod hi wedi cymryd pum mlynedd ar hugain i mi gyrraedd yna ac i ddechrau efo hi, y prif gymhelliad oedd ysgrifennu’r llyfr, The Man in Black,” meddai wrth golwg360.
“Ar ôl ychydig o ystyried, fe wnes i benderfynu, os dw i am ysgrifennu llyfr am y peth, mae’n ddigon teg fy mod i yn adrodd yr hanes ar raglen ddogfen hefyd.
“Ryw broses oedd hi, doedd o ddim yn benderfyniad uniongyrchol i wneud rhaglen deledu.
“Y prif gymhelliad oedd ysgrifennu’r llyfr, ond fod y rhaglen wedi dod ar ôl hynny.”
“Teimladau cymysg”
Mae’n cyfaddef fod ganddo fe deimladau cymysg am ail-fyw’r profiad ar gyfer y rhaglen.
“Y prif wahaniaeth, mae’n debyg, oedd fy mod i yn y rhaglen wedi gorfod mynd yn ôl i’r lleoliadau gwahanol lle ddaru Peter Moore lofruddio,” esboniodd Dylan Rhys Jones, wrth egluro sut brofiad oedd mynd ati i wneud y rhaglen.
“Hefyd, mynd i lefydd eraill oedd yn gysylltiedig efo’r stori.
“Ac er mod i, fel petai, wedi mynd yn ôl yn fy meddwl pan ro’n i yn ysgrifennu, roedd rhaid i mi fynd i’r llefydd er mwyn rhoi hynny ar ffilm, ac i adrodd y stori.
“Mae hynny, wrth gwrs, yn dod ag emosiynau gwahanol i mewn, teimladau gwahanol, ac yn dwyn fi’n ôl hefyd i’r amser pan o’n i’n paratoi’r achos blynyddoedd yn ôl.
“Teimladau cymysg, ond dw i’n falch mod i wedi’i wneud o.
“Roedd hi’n broses gathartig, â dweud y gwir, i fynd drwy’r hanes, i adrodd hanes, hwyrach, nad ydi pobol yn gwybod amdana i.”
Dioddefodd Dylan Rhys Jones o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), iselder, methu â chanolbwyntio, a flashbacks, a threuliodd o gyfnod mewn ward seiciatryddol yn Ysbyty Glan Clwyd wrth geisio ymdopi ag effeithiau’r achos.
“Er bod fy ffrindiau pennaf i’n gwybod fy mod i wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl ac yn y blaen, ac mae’n debyg wedi cysylltu’r hyn ddaru ddigwydd i fi o ran fy salwch efo’r profiadau yn y gorffennol, dw i ddim wedi siarad llawer amdanyn nhw, a dw i’n meddwl fod y broses yma o wneud y rhaglen ac ysgrifennu wedi caniatáu i mi fod yn fwy agored na dw i erioed wedi bod yn y gorffennol am yr hyn ddigwyddodd, ac am yr effaith gafodd hynny arna i,” meddai.
“Effaith ar rywun”
“Dw i’n dweud yn y llyfr, a dw i’n meddwl mod i’n dweud ar y rhaglen hefyd, fod yna dueddiad yn sicr ymysg pobol ym myd y gyfraith ein bod ni’n wynebu pethau heb ystyried yr effaith mae rhai o’r achosion yn ei chael arnom dw i’n meddwl,” meddai wedyn.
“Mae hynny’n wir am bobol mewn gwahanol broffesiynau, doctoriaid, athrawon, nyrsys…
“Rydyn ni’n sôn am ddoctoriaid sydd wedi bod drwy’r pandemig yn ddiweddar… maen nhw wedi gorfod wynebu pethau na fysan nhw, hwyrach, wedi ystyried bod yn eu hwynebu.
“Mae hynny yn cael effaith ar rywun. Alla i ddweud yn sicr fod fy mhrofiadau i wedi cael effaith arna i,” pwysleisia.
“Dw i’n siŵr y bysa nifer o bobol mewn proffesiwn tebyg yn dweud eu bod nhw wedi cael, neu yn cael, problemau yn sgil profi amgylchiadau anodd sy’n rhoi sialens iddyn nhw, ac sy’n bethau na fysan nhw wedi disgwyl eu hwynebu yn eu gyrfa.
“Dw i’n meddwl fod hwnna yn rhywbeth mae’n rhaid i ni ym myd y gyfraith, ac mewn byd proffesiynau eraill… bod yn llawer mwy ystyriol i’r effaith mae achosion anodd yn ei gael ar unigolion.
“Ers i fi ysgrifennu’r llyfr, dw i wedi cael ymateb gan bobol ym myd y gyfraith sydd dal i ystyried eu bod nhw, hwyrach, ar ben eu hunain pan maen nhw’n wynebu achosion sy’n achosion anodd iawn, ac yn delio efo pobol sydd wedi mynd drwy brofiadau anodd.
“Dw i’n meddwl bod angen mwy o siarad am y gefnogaeth sy’n gallu cael ei rhoi i bobol, ac os oes yna rywbeth da yn dod o’r rhaglen, os oes yna un neu ddau o bobol yn dechrau meddwl am hynny, mae yna ryw ddaioni wedi dod o siarad yn agored am y peth.”
“Ddim digon o ymdrin â’r problemau”
Mae Dylan Rhys Jones yn dweud nad oedd yna ddigon o gefnogaeth i gyfreithwyr a oedd yn wynebu achosion anodd pan wnaeth e gynrychioli Peter Moore.
“Roedd o’n rhywbeth roeddech chi’n gorfod ei wynebu ar ben eich hun, â dweud y gwir,” meddai.
“Ac roedd yna ryw dueddiad i feddwl, os nad oeddech chi, bod yna ryw wendid mewn gofyn am help.
“Yn enwedig ar ôl ‘sgwennu’r llyfr, yr hyn dw i wedi’i sylweddoli ydi bod yna dal bobol sy’n dweud nad oes yna [ddigon o gefnogaeth] o fewn byd y gyfraith.
“Mae yna rai meysydd lle mae yna gefnogaeth dda yn cael ei rhoi i unigolion, ond dw i’n credu mewn rhai meysydd proffesiynol fod hynny ddim o angenrheidrwydd o hyd yn wir.
“Dw i’n meddwl, o’r farn dw i wedi’i chael yn ôl fel adborth ar ôl y llyfr, fod hynny’n parhau i fod yn wendid ym myd y gyfraith – nad oes yna ddigon o siarad am y pethau yma, dim digon o ymdrin efo problemau sy’n codi o fod pobol broffesiynol, cyfreithwyr a phobol eraill, yn gorfod ymwneud efo adegau mwyaf anodd bywydau pobol.
“Boed yn ddioddefwyr, yn bobol sy’n torri’r gyfraith, mae ymdrin efo rheiny ar adegau yn ymestyn rhywun at y pen. Yn sicr, fe ddaru o wneud hynny i fi.”
“Creithiau yn aros am flynyddoedd”
“Dw i’n gallu dweud o’m mhrofiad i, mi oedd o’n brofiad ar ôl yr achos ddaru gymryd blynyddoedd a blynyddoedd i amlygu ei hun,” eglura Dylan Rhys Jones wrth drafod yr effaith gafodd yr achos ar ei iechyd meddwl.
“Doedd o ddim yn rhywbeth ddaru ddigwydd y mis canlynol, neu’r flwyddyn ganlynol.
“Roedd o’n rhywbeth oedd yn tyfu a chyniwair dros amser, ac yn mynd yn waeth ac yn waeth. Ro’n i’n dioddef efo iselder, ro’n i’n dioddef efo methu canolbwyntio, ro’n i’n cael flashbacks weithiau fod pobol yn ymosod arna i.
“Roedden nhw i gyd yn bethau oedd yn tyfu dros amser, yn y diwedd roedd pethau wedi mynd yn ormod i fi.
“Mi gymerodd hynny flynyddoedd, a hwyrach nad ydi pobol yn sylweddoli weithiau fod y creithiau yma yn gallu aros am flynyddoedd lawer.
“Un peth sydd angen wedyn i wneud iddyn nhw amlygu’u hunain, a dod i’r wyneb, ac weithiau’n mae hynny’r peth mwyaf annelwig.
“Ond mae hynny’n ddigon wedyn i ddod â’r graith yma’n ôl i’r wyneb, ac weithiau i effeithio bywyd rhywun fel nad ydyn nhw byth yr un fath.”
“Allan o’r gwaethaf”
“O fy rhan i, dw i wedi bod yn lwcus. Dw i wedi dod allan ohoni,” meddai.
“Mae’n debyg mai un o’r prif resymau dw i’n adrodd y stori rŵan, ydi ei bod hi wedi cymryd y cyfnod yma o amser i gyd i fi allu teimlo fy mod i rŵan yn hyderus i ddweud y stori, a fod y stori ddim yn mynd i effeithio fi… ’mod i wedi dod i dermau efo’r peth.
“Dw i ddim dal o dan y cwmwl du, dw i allan o’r gwaethaf.”
- Dyn Mewn Du ar S4C nos fory, Mai 26 am 9pm.