Mae dyn o Sir Amwythig wedi cael dedfryd o garchar wedi’i gohirio ar ôl ceisio twyllo pensiynwr o Landrindod tros waith cynnal a chadw gwerth miloedd o bunnoedd ar ei gartref.
Plediodd Leo Warner o Lwydlo yn euog i ddau gyhuddiad dan Reoliadau Gwarchod Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 am ddefnyddio dulliau masnachu ymosodol a mynd yn groes i ofynion diwydrwydd proffesiynol.
Cafodd ei erlyn yn llwyddiannus gan Gyngor Sir Powys, a chafodd y gwrandawiad ei gynnal yn Llys y Goron Merthyr Tudful.
Clywodd y llys fod Warner wedi cysylltu â phreswylydd 84 oed yn ei gartref yn Llandrindod gan gynnig gwneud gwaith ar y tŷ.
Yr achos
Rhoddodd ddyfynbris ar lafar am wneud gwaith ar y gwteri a phaentio’r tŷ a’r garej, a wnaeth e ddim darparu unrhyw waith papur ar y pryd.
£3,500 oedd y pris a gynigiodd, ond dywedodd Warner wrth y dyn y byddai’n rhaid iddo gynilo arian.
Pan ddechreuodd ar y gwaith ym mis Gorffennaf 2019, dywedodd Warner wrth y dyn y byddai angen platfform i gyrraedd o amgylch yr ystafell wydr, a chododd y pris i £5,500.
Fodd bynnag, cytunodd Warner y byddai’n gwneud pob dim am £5,000.
Esboniodd y pensiynwr nad oedd yn cadw arian parod yn y tŷ, a bod y banc agosaf yn Henffordd.
Dywedodd Warner wrtho y byddai’n ei ddilyn i gasglu’r deunyddiau, a dywedodd wrtho y byddai’n well iddo godi’r £5,000 yn llawn o’r banc.
Pan aeth y dioddefwr i fanc NatWest yn Henffordd, roedd y staff yn amheus gan fod y swm mor fawr, ac am ei fod e’n ymddangos yn anghyfforddus.
Dechreuodd Protocol Bancio yn yr banc, cafodd yr heddlu eu galw, a chafodd Warner ei arestio gan Heddlu West Mercia yn ddiweddarach.
Derbyniodd ddedfryd o 20 wythnos dan glo, wedi’i gohirio am 18 mis, a chafodd orchymyn i dalu gordal o £150 i’r dioddefwr ar raddfa o £20 y mis.
‘Peidiwch â chyflogi masnachwyr anhysbys’
“Gall trosedd ar garreg y drws effeithio ar unrhyw un, ond yn aml, yr henoed a’r bregus sy’n cael eu targedu gan fasnachwyr diegwyddor, trwy gynnig gwasanaethau gwella’r cartref,” meddai’r Cynghorydd Graham Breeze, Aelod Portffolio Cabinet Cyngor Powys ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Ymgysylltu, a Gwasanaethau Rheoleiddio.
“Yn yr achosion hyn, mae’r gwaith a gyflawnir o safon eithafol o wael.
“Ein cyngor ni yw peidiwch byth â derbyn gwaith gan alwr digroeso, a chofiwch yr hen air, os yw rhywbeth ‘yn rhy dda i fod yn wir’ dyna yn union y sefyllfa.
“Y cyngor gorau y gallwn ei roi i ddeiliaid tŷ yw peidio â chyflogi masnachwr anhysbys sy’n galw’n ddirybudd yn cynnig atgyweirio neu wella eu heiddo.”
Cyngor gan y Cyngor
Mae Gwasanaethau Safonau Masnach Cyngor Powys yn dweud y dylai pobol wirio manylion masnachwyr anhysbys, gofyn i ffrindiau neu gymdogion a ydyn nhw wedi clywed am y cwmni a/neu ofyn i’r masnachwr am eirda.
Maen nhw hefyd yn annog pobol i ofyn am ddyfynbris ysgrifenedig a chadw cofnod o fanylion unrhyw gerbyd.
Yn ogystal, maen nhw’n atgoffa pobol i beidio â thalu nes bydd y gwaith wedi’i orffen, ac maen nhw’n cynghori pobol i gyflogi masnachwr sy’n aelod o gymdeithas grefft.
Mae deddfwriaeth yn gofyn i fasnachwyr sy’n ymweld heb gael eu galw i roi ‘hysbysiad diddymu’ i ddefnyddwyr, sy’n rhoi 14 diwrnod iddyn nhw ddiddymu’r contract am unrhyw waith dros £42.
Mae peidio â chyflwyno hysbysiad diddymu yn gywir yn drosedd.