Mae Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Llafur Pontypridd, yn dweud bod dioddefwyr trais rhywiol yn “parhau i fod yn flaenoriaeth olaf” i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae hi’n tynnu sylw at ddadansoddiad newydd gan y Guardian o ystadegau’r Swyddfa Gartref sy’n dangos faint o achosion o drais rhywiol sy’n cael eu herlyn.

“Fe wnaeth llai nag un ymhob 60 o achosion o drais rhywiol arwain at gyhuddiadau llynedd,” meddai Alex Davies-Jones, gan gyfeirio at yr achosion a gafodd eu hadrodd i’r heddlu.

“Yn 2020, cafodd mwy na 52,000 o achosion o drais rhywiol eu hadrodd yng Nghymru a Lloegr, ond dim ond 843 arweiniodd at gyhuddiad neu wysiadau.

“Dw i’n gofyn i’r gweinidog nawr a fydd e’n cymryd y cyfle hwn i ymddiheuro i’r miloedd o ddioddefwyr trais rhywiol, yn arbennig y 40% sy’n prysur golli ffydd yn y system gyfiawnder ac sy’n tynnu ôl o erlyniadau oherwydd yr oedi hwn?”

Ddim yn ‘arbennig o blês’

Wrth ymateb, dywedodd Kit Malthouse, gweinidog yn y Swyddfa Gartref, ei fod e’n “gwerthfawrogi ei dicter cyfiawn yn llawn”.

“Dyw e ddim yn fater y mae’r un ohonon ni’n arbennig o blês na balch yn ei gylch, ac mae’n achos edifeirwch fod ymchwiliadau, a chyhuddiadau o drais rhywiol, wedi bod yn gostwng ers rhai blynyddoedd,” meddai.

“Mae’n drosedd anodd i ddelio â hi ar y gorau, ond mae’r gostyngiadau sylweddol rydyn ni wedi’u gweld dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn rhywbeth rydyn ni wirioneddol yn dymuno mynd i’r afael â nhw.

“Yn erbyn y cefndir hwnnw, dw i’n ymddiheuro ei bod hi’n trio gwleidyddoli rhywbeth ddylai fod yn fater trawsbleidiol, nid mater Llafur-Ceidwadol.”

“Ymrwymiad difrifol”

Fe wnaeth Kit Malthouse awgrymu y bydd adolygiad sylweddol ar sut mae achosion o drais rhywiol yn cael eu hymchwilio a’u herlyn yn cael ei gyhoeddi fis nesaf hefyd.

Wrth ymateb i gwestiwn Alex Davies-Jones ynghylch pryd fydd adolygiad y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi, dywedodd Kit Malthouse fod yr “adolygiad yn cynrychioli ymrwymiad difrifol gan y Llywodraeth a’u partneriaid ar gyfer newid”.

“Bydd cyfres o weithredoedd a fydd yn gyrru newidiadau yn y system ac mewn diwylliant er mwyn sicrhau fod dioddefwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael cefnogaeth, ac yn gallu aros ynghlwm â’u hachos, wrth ei wraidd,” meddai.

Dylai technegau paratoi achosion cryfach, a mwy o gyfathrebu rhwng pawb sydd ynghlwm â’r system, “arwain at fwy o achosion yn cyrraedd y llys, a, gobeithio, mwy o ddiffynwyr yn pleidio’n euog”, meddai’r gweinidog.

Mae’n dweud ei fod e’n “awyddus iawn” i gyhoeddi’r adolygiad y llynedd, ond fe gafodd ei ohirio yn sgil galwadau gan gynrychiolwyr dioddefwyr i ystyried mwy o dystiolaeth.

Ychwanega y bu mwy o ymchwil ar gyfer datblygu cynllun gweithredu “a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan ar ôl egwyl” y Senedd, a fydd yn dod i ben ar Fehefin 7.