Mae trefnwyr yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd wedi cyhoeddi y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein unwaith eto eleni.

Roedd disgwyl y byddai cyfyngiadau teithio wedi cael eu llacio ledled Ewrop erbyn mis Medi fel bod modd i bobol fynd i Quimper.

Ond gyda’r sefyllfa’n newid yn gyson, dywed y trefnwyr na fydd hynny’n bosib a’u bod nhw wedi penderfynu cynnal yr ŵyl ar y we.

“Mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed y tu ôl i’r llenni ac yn cymryd cyngor gan arbenigwyr o’r gwledydd a’r rhanbarthau niferus rydym yn eu gwasanaethu i gyflwyno’r ŵyl ‘mewn person’ orau bosib ym mis Medi,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.

“Gan gydweithio ar draws sawl gwlad wahanol ac wrth fonitro’r cyngor teithio rhwng yr holl lefydd hyn, yn ogystal ag ymgyfarwyddo’n gyson â’r rheolau ar gyfer digwyddiadau dan do yn lleoliad 2021, a’r sefyllfaoedd newidiol yn rhyngwladol, gyda chalon drom y mae’n rhaid canslo teithio i Quimper unwaith eto ar gyfer Gŵyl Gyfryngau Celtaidd 2021 ym mis Medi.”

Ond mae’r trefnwyr yn pwysleisio y bydd y digwyddiad ar-lein yn dilyn y drefn arferol, gyda rhwydweithio, sesiynau panel a’r Gwobrau Torc ar gyfer Rhagoriaeth yn cael eu cynnal rhwng Medi 7-9 “ar lwyfan arbennig”.

Maen nhw’n dweud bod “cyfle unigryw i gyflwyno’r ŵyl mewn ffordd newydd” ac fe fydd y cyfan yn rhad ac am ddim eleni.