Bydd yn rhaid i Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, gyhoeddi’r adroddiad ar lofruddiaeth y Cymro Daniel Morgan erbyn Mehefin 16.

Fe wnaeth y Farwnes O’Loan, sy’n cadeirio Panel Annibynnol Daniel Morgan, ofyn i’r Swyddfa Gartref sicrhau bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi erbyn hynny er mwyn i’w deulu gael atebion o’r diwedd.

Dywed y Farwnes O’Loan fod adolygiad diogelwch deng niwrnod wedi’i gynnal gan uwch-swyddogion Heddlu Llundain ar ôl i gydweithwyr Priti Patel fynnu bod gan yr Ysgrifennydd Cartref ddyletswydd i ystyried hawliau dynol a materion diogelwch cenedlaethol cyn cyhoeddi.

Mynnodd Priti Patel ei bod yn “iawn” ei bod hi’n darllen yr adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi, ond mae aelodau seneddol wedi cael gwybod nad ydi hi wedi’i dderbyn hyd yn hyn.

Cafodd Daniel Morgan, oedd yn dditectif preifat, ei ladd â bwyell ym maes parcio tafarn y Golden Lion yn Sydenham yn ne-ddwyrain Llundain ar Fawrth 10, 1987.

Er gwaetha’ pum ymchwiliad gan yr heddlu, yn ogystal â chwest, does neb wedi’i gael yn euog mewn perthynas â’i farwolaeth, ac mae Heddlu Llundain yn cyfaddef fod llygredd wedi llesteirio’r ymchwiliad gwreiddiol.

Yr adroddiad

“Mae’r panel wedi cydweithio’n agos iawn â’r Swyddfa Gartref, gan gynnwys yr ysgrifennydd parhaol, er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi – roedd y panel ar ddeall tan Fai 10 y byddai’n debyg y byddai adroddiad y panel yn cael ei gyhoeddi ar Fai 17 neu ddoe, ac y byddai’r Ysgrifennydd Cartref yn cael gweld yr adroddiad o flaen llaw, fel arfer,” meddai’r Farwnes O’Loan yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Nid oedd dim i awgrymu y byddai’r Ysgrifennydd Cartref yn ceisio golygu adroddiad y panel annibynnol.”

Dywed y Farwnes O’Loan fod y panel yn “disgwyl cadarnhad” gan y Swyddfa Gartref ynghylch trefniadau i sicrhau diogelwch yr adroddiad cyn ei gyhoeddi yn y Senedd.

“All y gweinidog sicrhau i’r Tŷ y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar Fehefin 16 er mwyn caniatáu i deulu Daniel Morgan, sydd wedi bod yn aros ers 34 mlynedd a thri mis, ei weld o’r diwedd?” gofynnodd.

“Awyddus” i’w gyhoeddi

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod nhw “mor awyddus â hi i weld fod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn y Senedd”.

“Dw i eisiau adleisio ei geiriau am y teulu sydd wedi gorfod aros 34 mlynedd am rai o’r atebion maen nhw’n chwilio amdanyn nhw, ac mae’n rhaid bod honno’n broses arbennig o boenus iddyn nhw,” meddai’r Farwnes Williams.

Dywed fod “angen” i’r Ysgrifennydd Cartref weld yr adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi yn y Senedd.

“Dw i’n parchu’r ffaith fod arbenigwyr cyfreithiol wedi edrych ar yr adroddiad, ond mae’r Ysgrifennydd Cartref dan orfodaeth i fod yn sicr o’r ffeithiau hefyd cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.”

Daniel Morgan

Pryderon am ddiffyg tryloywder wrth aros am adroddiad i lofruddiaeth Daniel Morgan

Chris Bryant yn cyhuddo’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel o rwystro’r cyhoeddiad, ond “nid ydym wedi’i dderbyn eto” medd gweinidog y Swyddfa Gartref