Mae dyn o Lanelli wedi cyfaddef bod â gwerth hyd at £10,000 o gyffuriau dosbarth A a dosbarth B yn ei feddiant a bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.
Aeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys i gartref Sanjit Sanghera ddydd Mercher (Mai 19) fel rhan o ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau ehangach yn yr ardal.
Fe ddaethon nhw i wybod ei fod e wedi bod yn cyflenwi sylweddau anghyfreithlon ers 2018.
“Sylwodd swyddogion a fynychodd yr eiddo ar arogl cryf o ganabis yn dod o sied ei ardd, lle darganfuwyd bagiau yn cynnwys canabis a chocên,” meddai’r Ditectif Sarjant Andrew Clatworthy.
“Arweiniodd chwiliad llawn o’r eiddo at atafaelu dros £4,000 mewn arian parod, ynghyd â mwy na hanner kilo o ganabis a thua 41g o gocên.
“Mae hyn gryn dipyn yn uwch na’r hyn y byddem yn disgwyl ei ganfod at ddefnydd personol rhywun.”
Canfuwyd bod llawer o’r sylweddau anghyfreithlon wedi’u cuddio mewn jariau gwydr wedi’u marcio â labeli bisgedi.
Amcangyfrifodd dadansoddwr cyffuriau arbenigol fod gwerth cyfunol y cyffuriau rhwng £7,800 a £10,000 yn dibynnu ar burdeb y cocên.
Cafodd Sanjit Sanghera, 21 oed, ei arestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.
“Er na roddodd unrhyw sylwadau yn ystod cyfweliadau’r heddlu, roeddem yn gallu cyflymu ein hymholiadau digidol ac adfer tystiolaeth i brofi ei fod wedi bod yn rhan o’r cyflenwad o sawl cilogram o gyffuriau,” meddai’r Ditectif Sarjant Andrew Clatworthy wedyn.
“Daethom o hyd i negeseuon ar ei ffôn symudol yn dangos tystiolaeth ei fod yn gwerthu cyffuriau yn mynd yn ôl mor bell â 2018, gan brofi ei fod wedi bod yn ddeliwr cyson yn yr ardal.”
Cafodd Sanjit Sanghera ei gyhuddo o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, bod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, a chaffael, defnyddio neu fod ag eiddo troseddol yn ei feddiant – sef £4,227.
Fe blediodd yn euog i’r tri chyhuddiad pan aeth e gerbron ynadon Llanelli ddydd Iau (20 Mai) ac fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa nes y bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar Fehefin 21.