Fe fydd Dominic Cummings, cyn-brif ymgynghorydd prif weinidog Prydain Boris Johnson, yn mynd gerbron pwyllgor seneddol heddiw (dydd Mercher, Mai 26), a’r disgwyl yw y bydd yn gwneud rhagor o honiadau tanllyd.

Mae e eisoes wedi beirniadu Johnson, yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock a nifer o aelodau blaenllaw eraill o’r llywodraeth ers iddo fe adael ei swydd fis Tachwedd y llynedd.

Mewn cyfres o negeseuon ar Twitter, mae e wedi bod yn feirniadol o’r ffordd yr aeth y llywodraeth ati i ymdrin â’r pandemig ac un o’i honiadau mwyaf oedd fod y llywodraeth wedi gobeithio gadael i’r feirws ymledu cyn gwneud tro pedol gan y gallai hynny fod yn “gatastroffig”.

Mae gweinidogion a llefarydd ar ran y prif weinidog wedi gwadu’r honiadau.

Y pwyllgor

Fe fydd Dominic Cummings yn annerch y pwyllgorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwyddoniaeth a Thechnoleg heddiw.

Y tro diwethaf iddo annerch aelodau seneddol, siaradodd e am effaith y pandemig ar yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn San Steffan.

Y disgwyl y tro hwn yw y bydd yn honni bod Boris Johnson wedi dweud bod “Covid ond yn lladd pobol 80 oed” mewn ymgais i ohirio cyfnod clo’r hydref.

Dydy Downing Street ddim wedi gwadu’r honiadau ac mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd Llafur, yn dweud bod y sylwadau’n “hollol warthus”.

Beirniadaeth

Mae Dominic Cummings hefyd wedi beirniadu ymateb y llywodraeth mewn sawl ffordd, er ei fod yntau’n gweithio iddyn nhw yn ystod y pandemig.

Mae’n dweud bod polisi’r ffiniau’n “jôc” ac er bod yr ymateb i’r pandemig i fod “o safon fyd-eang”, mae’n dweud ei fod yn “drychineb yn rhannol”.

Mae e hefyd wedi beirniadu “cyfrinachedd” y llywodraeth o ran eu cynlluniau, gan ddweud y dylid fod wedi cyflwyno profion torfol ar gyfer Covid yn gynt o lawer.

Ymhlith yr honiadau mwyaf tanllyd, fe fydd e’n cyhuddo Boris Johnson o fethu sawl cyfarfod Covid-19 am ei fod yn brysur yn llunio cofiant i William Shakespeare er mwyn talu am ei ysgariad oddi wrth Marina Wheeler, ei ail wraig.

Mae Downing Street wedi gwadu’r honiadau hynny.

Mae lle i gredu bod y berthynas rhwng Dominic Cummings a Boris Johnson wedi suro yn ystod trafodaethau am ail gyfnod clo, wrth i Downing Street gyhuddo Cummings o ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys negeseuon testun rhwng ei fos ar y pryd a’r entrepreneur Syr James Dyson.

Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Cummings ddarn blog yn gwneud honiadau am y prif weinidog.

Daw ei ymddangosiad gerbron y pwyllgorau seneddol flwyddyn a diwrnod ar ôl iddo gynnal cynhadledd i’r wasg yn Downing Street er mwyn cyfiawnhau ei daith i Durham a Barnard Castle fis Mawrth y llynedd.