Mae sefydliadau a lleoliadau celfyddydol yn cael eu hannog i ddatgan ar y cyfryngau cymdeithasol fod #celfaragor wrth i’r sector geisio codi ar ei draed unwaith eto yn dilyn y pandemig.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae gan orielau a lleoliadau celfyddydol eraill yr hawl i agor eu drysau i’r cyhoedd unwaith eto erbyn hyn.

Gall theatrau hefyd gynnal digwyddiadau os oes modd i’r gynulleidfa gadw pellter oddi wrth ei gilydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu Cwestiynau Cyffredin ar eu gwefan, gydag adran wedi’i neilltuo ar gyfer y celfyddydau a digwyddiadau, gan egluro sut gall lleoliadau weithio.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisoes yn defnyddio’r hashnod i dynnu sylw at y ffaith fod y sector yn dechrau agor eto.

Yn sgil yr argyfwng yn y sector, mae nifer o sefydliadau celfyddydol ledled Cymru wedi cael cymorth drwy Gronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru er mwyn iddyn nhw gael ailagor yn ddiogel, a bydd mwy o fanylion am y ceisiadau llwydiannus maes o law.

‘Gweithio’n galed’

“Mae orielau, theatrau a chanolfannau a lleoliadau celfyddydol ledled Cymru ar agor neu’n barod i ailagor,” meddai Nick Capaldi, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Maen nhw’n gweithio’n galed i groesawu’r cyhoedd mewn ffyrdd sy’n cadw at ganllawiau cyfredol y Llywodraeth gan greu lleoedd diogel.

“Ond mae cyfleoedd eisoes i weld arddangosfeydd newydd a chefnogi gwneuthurwyr ac artistiaid Cymru drwy eu mannau manwerthu a’n Cynllun Casglu.”